Cwpan Heineken
- Cyhoeddwyd

Yr Albanwr Dan Parks gafodd 20 o bwyntiau'r Gleision yn erbyn Caeredin
Gleision 25-8 Caeredin
Roedd gwaith cicio'r Albanwr Dan Parks yn allweddol i fuddugoliaeth Gleision Caerdydd yn erbyn Caeredin yng nghystadleuaeth Cwpan Heineken nos Wener.
Cafodd Parks 20 o'r 25 pwynt y tîm cartref wrth iddyn nhw symud uwchben eu gwrthwynebwyr i frig tabl Grŵp 2.
Dyma chweched fuddugoliaeth Y Gleision yn erbyn y tîm o'r Alban o'r bron.
Alex Cuthbert gafodd unig gais y tîm cartref yn hwyr yn y gêm.
Roedd y sgôr llawer agosach ar yr hanner, 6-3 i'r Gleision.
Daeth unig gais Caeredin i Lee Jones ond chafodd y cais ddim ei drosi.
Roedd Greig Laidlaw wedi llwyddo gyda chic gosb yn yr hanner cyntaf - unig bwyntiau'r ymwelwyr yn y 40 munud cyntaf.
Ond doedd hynny ddim yn ddigon yn erbyn tîm cryf Y Gleision.
Fe fydd Y Gleision yn teithio i Gaeredin ar gyfer yr ail gêm nos Wener nesaf.
Scarlets 14-17 Munster
Munster sy'n rheoli Grŵp 1 wedi eu 13eg buddugoliaeth yn olynol yn erbyn y Scarlets ym mhob cystadleuaeth.

Canolwr Munster, Lifeimi Mafi, yn bylchu yn erbyn y Scarlets
Roedd ergyd i'r Scarlets cyn dechrau. Oherwydd anaf i'w goes, doedd George North ddim i chwarae.
Ond am gyfnod doedd dim ei angen e chwaith. Roedd cais cynnar Aaron Shingler yn ddim llai na haeddiannol.
Ac wedi methu ddwywaith yn barod at y pyst, llwyddodd Rhys Priestland gyda'i drydydd cynnig. Dyna'r tro ola' y byddai'r Scarlets ar y blaen.
Tarodd Munster 'nôl gyda Ronan O'Gara'n dechrau'r gwrthymosodiad arweiniodd at gais cynta'r ymwelwyr yn fuan wedi llwyddo'i hun â gôl gosb.
Nial Ronan diriodd, a chyda thriphwynt arall cyn troi, roedd gan y Gwyddelod fantais o driphwynt.
Yn ôl y disgwyl mi barhaodd hi'n ornest dynn tan y diwedd wrth i'r ddau faswr gyfnewid dwy gôl gosb arall yr un.
Mae colli'n golygu y bydd pwysau aruthrol ar y Scarlets mas ym Munster y penwythnos nesa'.
Saracens 31-26 Gweilch
Y Saracens gipiodd y fuddugoliaeth mewn gêm gyffrous yn Wembley ond mae pwynt bonws y Gweilch yn eu cadw yn y ras i gyrraedd y rownd nesaf.

Asgellwr y Saracens, David Strettle, yn ceisio osgoi maswr y Gweilch Dan Biggar
Roedd y tîm cartref 10-3 ar y blaen ar ôl cais cynnar Rhys Gill cyn i'r cyntaf o ddau gais Ashley Beck ddod â'r ymwelwyr yn gyfartal.
Ond y Saracens oedd yn arwain 23-13 ar yr egwyl ar ôl cais gan Ernst Joubert a thair cic gosb gan Owen Farrell.
Ymestynnwyd y fantais i 28-16 gan gais Chris Wyles, cyn i Beck gael ei ail gais a phedwaredd gic gosb Dan Biggar.
Bydd y ddau dîm yn cwrdd eto yn Stadiwm Liberty ddydd Gwener gyda gobeithion y ddau dîm yn dal yn fyw, yn enwedig yn dilyn buddugoliaeth Treviso yn erbyn Biarritz ddydd Sadwrn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2011