Jamie Roberts â rhybudd i'r Gleision am Gwpan Heineken

  • Cyhoeddwyd
Jamie RobertsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jamie Roberts anaf yn y gêm yn erbyn Racing Metro ym mis Tachwedd

Mae Jamie Roberts yn mynnu y bydd y ddwy gêm yn erbyn Caeredin yng Nghwpan Heineken yn dyngedfennol i dymor y Gleision.

Bydd tîm y brifddinas yn croesawu Caeredin nos Wener cyn cwrdd eto ym Murrayfield wythnos yn ddiweddarach.

Mae'r ddau dîm yn cyrraedd Stadiwm Dinas Caerdydd heb golli eu dwy gêm gyntaf yn y gystadleuaeth.

Dywedodd canolwr Cymru mai'r bythefnos nesaf yng Nghwpan Heineken yw'r pwysicaf yn eu tymor.

"Rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ar ein gorau nos Wener yn erbyn tîm da iawn o Gaeredin.

"Mae'n rhaid ei hennill. Bydd y pythefnos yma'n dyngedfennol i'n tymor.

"Mae gan Gaeredin dalent ar draws y cae, ac mae Tim Visser ar yr asgell yn beryglus ac yn sicr yn chwaraewr y mae'n rhaid i ni ofalu amdano.

"Ond mae gennym safon ein hunain, ac os fyddwn ar ein gorau fe fyddwn yn ennill ddydd Gwener."

'Siomedig'

Cyfaddefodd Roberts nad yw ei baratoad ar gyfer y gêm wedi bod yn ddelfrydol.

Collodd y Gleision o 52-9 yn erbyn Leinster yng nghynghrair y Pro12 yn Nulyn y diwrnod cyn i wyth o'u chwaraewyr fod yn rhan o dîm Cymru gollodd i Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm.

"Collodd y bois yn drwm yn Leinster ac fe fyddan nhw am wneud yn iawn am hynny," meddai Roberts.

"Roedden ni'r bois rhyngwladol yn siomedig iawn i golli yn erbyn Awstralia.

"Mae'n debyg nad oes gêm fwy (yn erbyn Caeredin) i ni geisio gwneud yn iawn am y ddau beth.

"Mae Caeredin wedi ennill eu dwy gêm gyntaf yng Nghwpan Heineken fel ni.

"Fe fydd pwy bynnag sy'n fuddugol dros y pythefnos yma yn mynd i'r ddwy gêm olaf gyda'u tynged yn eu dwylo eu hunain."

Mae'r Gleision wedi curo'r Albanwyr y pum tro diwethaf i'r ddau gwrdd, ond dyw Roberts ddim yn dibynnu ar hanes.

"Mae hynny'n rhywfaint o fantais, ond gall unrhyw beth ddigwydd yng nghwpan Heineken," rhybuddiodd.

Cwpan Heineken: Gleision v. Caeredin - Stadiwm Dinas Caerdydd: Nos Wener, Rhagfyr 9, 8:00pm.