Dim opsiwn ond ymddeol gan lu heddlu i wneud arbedion
- Cyhoeddwyd
Mae heddlu mwya' Cymru wedi dweud nad ydyn nhw am i swyddogion profiadol orfod ymddeol ond does 'na ddim dewis arall oherwydd toriadau cyllid.
Mae 70 o swyddogion gyda 30 mlynedd o brofiad yn gadael Heddlu De Cymru eleni.
Dywedodd yr heddlu eu bod am geisio cyfyngu'r effaith ar y cyhoedd.
Mae 'na rybudd y byddai colli cymaint o swyddogion profiadol yn cael effaith ar ddigwyddiadau mawr a chyrchoedd arbenigol.
Dywedodd y Swyddfa Gartref fod staffio yn fater i bob prif gwnstabl.
Does dim modd diswyddo swyddogion o'r heddlu gan eu bod yn weision Y Goron yn hytrach na weithwyr cyflogedig.
Ond dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn defnyddio rheol o'r enw A19 i orfodi rhai swyddogion i ymddeol unwaith eu bod wedi cwblhau 30 mlynedd o wasanaeth.
Profiad
Mae 16 o swyddogion heddlu Gogledd Cymru wedi gadael o dan reol A19 ond dywedodd y llu nad oedd ganddyn nhw fwriad i'w defnyddio'r flwyddyn nesaf.
Does gan Heddlu Gwent ddim bwriad i ddefnyddio'r rheol ond mae Heddlu Dyfed Powys yn ei hystyried.
Yn ôl Mark Milton, cyfarwyddwr adnoddau dynol Heddlu De Cymru, dim ond effeithio ar lai 'na 4% o swyddogion y byddai A19.
"Dydyn ni ddim yn croesawu gorfodi swyddogion sydd wedi rhoi cymaint o wasanaeth i'r cyhoedd i ymddeol," meddai.
"Ond mae angen i ni gydnabod nad oes 'na opsiwn arall ac rydym wedi gweithio yn galed i sicrhau ein bod yn cyfyngu ar yr effaith ar y cyhoedd ..."
Dywedodd Ffederasiwn Heddlu De Cymru, sy'n cynrychioli swyddogion, y byddai'r llu yn ei chael yn anodd oherwydd colli cynaint o arbenigedd.
"Mae swyddogion profiadol yn esiampl dda i'r rhai iau," meddai'r cadeirydd Guy Bohun.
"Maen nhw hefyd yn arbenigo mewn meysydd fel gwarchod plant a gwarchod y cyhoedd.
"fe fydd digwyddiadau mawr fel gemau rygbi a phêl-droed a chyngherddau yn diodde' hefyd."
'Sicrhau effeithiolrwydd'
Dywedodd fod swyddog cynllunio digwyddiadau mawr eisoes wedi gadael, un oedd â 10 mlynedd o brofiad.
Mae gan Gymdeithas yr Uwch-Arolygyddion eu pryderon hefyd.
"Mae gan y prif gwnstabliaid waith anodd iawn i wneud 20% o arbedion ...." meddai Graham Cassidy, yr Ysgrifennydd Prydeinig.
"Ddylai swyddogion â mwy i'w gynnig ddim cael eu gorfodi i adael."
Ond mae'r Swyddfa Gartref yn mynnu mai mater i'r prif gwnstabliaid unigol yw hyn yn ogystal â'r awdurdodau heddlu.
"Nhw sydd yn y lle gorau i benderfynu a ddylen nhw ddefnyddio'r rheol A19 er mwyn sichrau effeithiolrwydd eu llu."