Bwriad i ailwampio gofal canser

  • Cyhoeddwyd
Claf yn derbyn cyffuriau yn erbyn canserFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Elusen Macmillan: 'Angen ailfeddwl'

Mae'n bosib y bydd cleifion canser yn rhoi adborth am eu triniaeth oherwydd bwriad i ailwampio gwasanaethau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru, sy'n ceisio barn y cyhoedd a mudiadau am gynllun newydd, y byddai'r adborth yn gwella ansawdd y gofal.

Fe fydd newidiadau, meddai, mewn grym erbyn 2016.

Ym mis Mawrth dywedodd yr elusen Macmillan fod angen ailwampio gofal yng Nghymru gan y byddai nifer y cleifion yn dyblu o fewn 20 mlynedd.

Mae'r cyfnod ymgynghori yn achos Gyda'n Gilydd yn erbyn Canser yn dechrau ddydd Llun ac yn dod i ben ar Fawrth 9.

'Blaenoriaeth'

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths: "Mae canser o hyd yn flaenoriaeth uchel i'r llywodraeth.

"Er bod y lefelau goroesi yng Nghymru ymhlith y rhai mwya' arwyddocaol, mae achosion y clefyd yn cynyddu.

"Yn sicr, mae dewisiadau ffordd o fyw yn effeithio'n fawr ar gyfraddau canser ac mae'n hollbwysig ein bod ni'n sicrhau llai o ordewdra, ysmygu, a chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol."

Dylai byrddau iechyd lleol, meddai, gefnogi'r rhai oedd am leihau'r risg o gael y clefyd a dylai unigolion ofalu am eu hiechyd.

'Safon ucha'

"Rwyf wedi gwneud hyn yn glir, fod angen i wasanaethau iechyd fod yn gynaliadwy a darparu gofal o'r safon ucha'.

"Pan mae hyn yn cael ei gyfiawnhau'n glinigol, mae angen canoli rhai gwasanaethau arbenigol ar lai o safleoedd.

"Y nod yw bod adferiad cleifion yn parhau'n nes at eu cartrefi."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol