Price: Plaid yn wynebu 'cyfnod estynedig fel gwrthblaid'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-Aelod Seneddol Plaid Cymru wedi rhybuddio fod y blaid yn "wynebu cyfnod estynedig fel gwrthblaid".
Mae Adam Price wedi datgan y tebygolrwydd na fydd Plaid Cymru yn ennill Etholiad y Cynulliad nesaf yn 2016 ar wefan WalesHome.
Mae cyn-aelod Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wedi datgan y dylai annibyniaeth fod yn rhan o gynlluniau tymor hir y pedwar ymgeisydd am arweinyddiaeth Plaid Cymru.
Y pedwar sydd wedi cyhoeddi eu bwriad i frwydro am arweinyddiaeth Plaid Cymru yw'r Arglwydd Dafydd Elis Thomas, Elin Jones, Simon Thomas a Leanne Wood.
'Herio'
Mae Mr Price yn honni y byddai diystyru annibyniaeth yn "weithred o hunan losgi" i'r blaid.
Nid yw Mr Price wedi cefnogi dim un o'r ymgeiswyr ar gyfer y ras i arwain y blaid ond y mae'n cefnogi awgrym un o'r ymgeiswyr, Elin Jones, y gall Cymru fod yn annibynnol erbyn 2036.
Mae Mr Price, sy'n bellach yn gymrawd ymchwil yn Ysgol Lywodraeth Kennedy yn Harvard, wedi rhybuddio'r blaid ei bod yn wynebu "cyfnod estynedig fel gwrthblaid" ac y dylai Plaid Cymru ddefnyddio'r naw mlynedd nesaf fel un o'r gwrthbleidiau i "herio tra-arglwyddiaeth y Blaid Lafur".
Yn ôl Mr Price does dim posibilrwydd y bydd Plaid Cymru yn ffurfio clymblaid â'r Blaid Lafur yn debyg i un Cymru'n Un oedd yn llywodraethu Cymru rhwng 2007 a 2011.
"Wrth gwrs mae'n rhaid i bob plaid frwydro i ennill bob etholiad ond y gwir yw ein bod ni'n wynebu cyfnod estynedig fel gwrthblaid," meddai.
"Mae casineb greddfol y Blaid Lafur ynghylch popeth rydyn ni'n cynrychioli yn golygu - fel y gwelwyd yn ystod trafodaethau'r gyllideb - mai'r Democratiaid Rhyddfrydol, hyd yn oed pan maen nhw wedi eu pardduo gan gydweithio â'r Torïaid - yw'r partneriaid a ffefrir.
"Ni fydd Cymru'n Un rhan dau yn digwydd.
"Erbyn 2020 bydd y Blaid Lafur wedi llywodraethu am 21 mlynedd.
"Yn fy marn i, dyma'r amser delfrydol i nodi aeddfedrwydd democratiaeth Cymru drwy ethol dewis gwahanol i'r Blaid Lafur.
"Dylid ystyried y cyfnod fel gwrthblaid yn ystod y naw mlynedd nesaf fel cyfle hanesyddol i herio tra-arglwyddiaeth y Blaid Lafur."
'Methiannau cyfresol'
Mewn ymateb i sylwadau Mr Price, dywedodd un o ffynonellau'r Blaid Lafur: " Mewn gwleidyddiaeth does dim byd yn debyg i uchelgais i ysgogi'r minteioedd a dyw sylwadau Adam Price yn ei erthygl ddim byd yn debyg i uchelgais.
"Mae naratif yn datblygu ymysg arweinyddiaeth Plaid Cymru sy'n awgrym sarhaus fod pobl Cymru ddim yn "deall" ei safiad ynglŷn ag annibyniaeth.
"Ond mae methiannau cyfresol y blaid mewn etholiadau diweddar yn awgrymu'r gwrthwyneb.
"Y gwir yw bod pleidleiswyr yn "deall" Plaid Cymru ond, yn seml, nid ydynt yn cytuno â nhw."
Bydd yr enwebiadau ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymry ddim yn agor tan Ionawr 3 ac yn cau ar Ionawr 26.
Bydd yr arweinydd newydd yn cymryd yr awenau ar Fawrth 15 2012.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2011