Cerddorion yn dod a'u streic dridiau i ben

  • Cyhoeddwyd
Desg stiwdio (cyffredinol)Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl cerddorion, fe ddylai taliadau gael eu penderfynu ar sail 'gwerth economaidd" yn hytrach na "chyrhaeddiad a defnydd'

Mae Cynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerdd Cymru wedi dweud na fyddan nhw'n parhau gyda streic dridiau wedi trafodaethau.

Roedd rhai o gerddorion Cymru wedi mynd ar streic ddydd Llun a oedd i barau tan nos Fercher gan wrthod caniatáu i Radio Cymru ddarlledu eu caneuon oherwydd ffrae ynglŷn â'r breindaliadau sy'n cael eu rheoli gan Gymdeithas Hawliau Perfformio PRS.

Mae'r cerddorion yn anhapus gyda'r arian y maen nhw'n ei gael am ddarlledu eu gwaith.

Ond wedi trafodaethau gyda'r orsaf yn ystod y dydd mae'r streic wedi dod i ben am y tro.

Dadl y cerddorion oedd eu bod yn derbyn taliadau "pitw" gan y BBC am ddefnyddio eu cerddoriaeth ar Radio Cymru.

Fe gododd y problemau wedi i'r PRS (Performing Rights Society) newid y fformiwla sy'n cael ei defnyddio i dalu am gerddoriaeth sy'n cael ei darlledu yng Nghymru.

Parchu dymuniadau

Roedd BBC Radio Cymru wedi dweud cyn i'r streic ddod i ben eu bod yn gwneud popeth posib i geisio datrys yr anghydfod.

Roedden nhw wedi dweud bod y brotest yn "siomedig...ar ôl dyddiau lawer o drafod, a chynnig oedd yn cyflawni mwyafrif helaeth gofynion y cerddorion".

Dywedodd yr orsaf eu bod wedi addasu'r rhaglen gerddoriaeth ar gyfer ddydd Llun, gan geisio parchu dymuniadau'r cerddorion, ond na ellid fod wedi cynnal y sefyllfa am dridiau.

Wrth gadarnhau na fydd y streic yn parhau am y tro, dywedodd Dafydd Roberts, Prif Weithredwr Cwmni Sain, bod y penderfyniad gan y PRS a'r BBC i gynnwys "gwerth economaidd" i'r taliadau ar yr agenda ar gyfer cyfarfod ar Ionawr 12 yn allweddol yn eu penderfyniad i atal y streic.

Ond ychwanegodd nad dyma ddiwedd y mater ac y byddan nhw'n adolygu'r sefyllfa wedi'r cyfarfod.

Wedi'r cyhoeddiad dywedodd Siân Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni Cymraeg BBC Cymru, ei bod yn croesawu'r ffaith y bydd cyfarfod yn cael ei gynnal.

"Dyma fydd y tro cyntaf i uwch swyddogion y tair ochr ddod at ei gilydd i drafod.

"Mae'n gyfle gwirioneddol i ni ddatrys y broblem.

"Mae'n bwysig i Radio Cymru a'r gynulleidfa ein bod yn cael y drafodaeth a'n bod yn datrys y sefyllfa."

Cynhaliodd y cerddorion streic debyg ar Fawrth 1, ond y tro hwn bydd y brotest yn para tridiau ac mae'r gynghrair yn bwriadu targedu ymddiriedolwyr y BBC.

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol