Angen mwy o waith asesu plant'

  • Cyhoeddwyd
Athro a disgyblion mewn dosbarthFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun ar gyfer plant rhwng tair blwydd oedd a pum mlwydd oed sy'n dechrau'r cyfnod sylfaen

Mae'r Gweinidog Addysg wedi datgan manylion arolwg wedi iddo gyfaddef fod angen "mwy o waith" ar asesiadau plant pan maen nhw'n dechrau ysgol.

Mae Cynllun Asesu Datblygiad Plentyn ar gyfer plant rhwng tair blwydd oedd a pum mlwydd oed sy'n dechrau'r cyfnod sylfaen.

Ond mae'r cynllun wedi ei feirniadu gan undebau athrawon sy'n honni ei fod wedi cynyddu baich gwaith athrawon.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, y byddai arbenigwr annibynnol yn arolygu'r asesiadau.

Arbenigwr annibynol

Cyflwynwyd yr asesiadau eleni i asesu pob plentyn sy'n dechrau ysgol gynradd sy'n cael eu dysgu o dan y cyfnod sylfaen - cyfnod cyntaf addysg plant rhwng tair blwydd oedd a saith mlwydd oed yng Nghymru.

Yn ôl Llywodraeth Cymru prif bwrpas y cynllun yw canfod "man cychwyn" plentyn a'r camau nesaf yn ei ddatblygiad.

Ond mae undebau athrawon, gan gynnwys NUT Cymru a NAHT Cymru wedi datgan eu pryder gan honni bod gwaith papur yn cymryd gormod o amser athrawon.

Mae'r undebau yn gobeithio y bydd swyddogion yn ail ystyried y cynllun.

Cyhoeddodd Mr Andrews ei fwriad i lansio'r arolygiad yn ystod anerchiad yn gynhadledd yr undeb athrawon NASUWT yn Abertawe yn gynharach ym mis Rhagfyr.

Dywedodd y disgwyl oedd y byddai arbenigwr annibynnol yn cael ei benodi ym mis Mawrth 2012 i gynnal arolygiad yr asesiadau.

'Anghysondeb'

"Rydw i wastad wedi dweud roedden ni am wybod am effaith y cynllun yn ystod y tymor cyntaf a dyna'r bwriad yn awr," meddai.

"Rydyn ni wedi derbyn adborth positif ynghylch sawl agwedd o'r proffil.

"Mae athrawon, prifathrawon a chynorthwywyr dosbarth wedi dweud wrthym fod y proffil wedi darparu mwy o ddealltwriaeth ynghylch datblygiad bob plentyn.

"Ond mae'n amlwg bod angen mwy o waith i sicrhau ei fod yn ateb ein holl ofynion."

Bydd y proffil diwygiedig yn cael ei gyflwyno erbyn dechrau'r flwyddyn ysgol yn 2013-14.

Ond ni fydd rhaid i awdurdodau lleol gyflwyno eu canlyniadau i Lywodraeth Cymru ar ddiwedd y flwyddyn am fod y proffil wedi dioddef rhywfaint o anghysondeb yn ardaloedd gwahanol Cymru.

Dywedodd Mr Andrews y byddai'n llacio'r anghenion ynghylch anfon adroddiadau i rieni am weddill y flwyddyn.

Mae aelod gweithredol yr NUT a phrifathro ysgol yng Nghastell-nedd, Beth Davies, wedi honni bod y cynllun asesu yn golygu nad oedd plant yn cael eu dysgu am wythnosau.

"Mae athrawon am i blant gyrraedd eu potensial," meddai.

"Mae'r baich biwrocrataidd sydd ar ysgwyddau athrawon yn bygwth datblygiad plant."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol