Ffrae am driniaeth diabetes

  • Cyhoeddwyd
Dai WilliamsFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dai Williams, o Diabetes UK Cymru nad yw'r wybodaeth berthnasol ar gael yn hawdd

Cafodd Llywodraeth Cymru ei beirniadu gan elusen diabetes am beidio defnyddio sustem gyfrifiadurol ganolog i wella triniaeth o'r clefyd.

Dywed Diabetes UK Cymru ei bod hi'n warthus nad yw Cymru wedi mabwysiadu'r sustem SCI DC, sydd eisoes yn cael ei defnyddio yn yr Alban.

Mae'r elusen yn honni bod cleifion yn colli cael triniaeth "uniongyrchol a manwl".

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn asesu os oedd y sustem SCI DC yn gydnaws gyda sustemau presennol.

Meddai llefarydd: "Mae GIG Cymru yn ystyried sut y gall cofnod diabetes i Gymru gyfan gael ei greu a'i wneud yn gydnaws gyda'r holl sustemau a safonau sydd eisoes mewn grym."

Osgoi marwolaethau

Yn yr Alban, mae'r sustem SCI DC yn cael ei defnyddio ac mae 98% o bobl sydd â diabetes ar y sustem.

Dywed Diabetes UK Cymru fod y sustem yn golygu y gall holl weithwyr iechyd o feddygon teulu ac ysbytai ac optegwyr gael mynediad yn syth i gofnodion meddygol cleifion.

Wythnos yn ôl, fe ddatgelwyd y gellid osgoi hyd at 24,000 o farwolaethau yn Lloegr petai'r cyflwr yn cael ei reoli'n well.

Dywedodd Cadeirydd Diabetes UK Cymru, Dai Williams, y gallai'r sefyllfa fod cynddrwg os nad gwaeth yng Nghymru.

"Mae hi'n debygol o fod cynddrwg, ond dydyn ni ddim yn gwybod," meddai.

"Y rheswm nad ydyn yn gwybod yw nad yw Llywodraeth Cymru yn fodlon cael sustem technoleg gwybodaeth sy'n gweithio.

"Does dim modd dweud lle mae'r driniaeth yn gweithio a lle dyw e ddim. Mae'r holl fyrddau iechyd yn defnyddio sustemau gwahanol sydd ddim yn 'siarad' gyda'i gilydd."

Mae 160,000 o bobl Cymru sydd â diabetes, ac mae 7,000 o achosion newydd yn flynyddol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yng Nghymru, mae gennym sustemau yn bodoli sy'n wahanol i'r rhai yn yr Alban.

"Byddai'n rhaid i unrhyw sustem newydd gydymffurfio gyda safonau Cymru fel y Gofrestr Cleifion, y Sustem Batholeg a'r Sustem Weinyddu Cleifion sy'n cael eu defnyddio mewn 75% o ysbytai Cymru."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol