Ynni haul: Her yn llwyddo

  • Cyhoeddwyd
Paneli solarFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y taliadau eu haneru ar Ragfyr 12 eleni

Mae barnwr yn yr Uchel Lys wedi dyfarnu fod gwendidau cyfreithiol yng nghynlluniau Llywodraeth San Steffan i dorri cymorthdaliadau ar gyfer pobl sydd am roi paneli solar ar eu tai.

Roedd yr Ysgrifennydd Ynni, Chris Huhne yn bwriadu torri'r cymorthdoliadau i unrhyw gynllun a gafodd ei gwblhau wedi Rhagfyr 12.

Roedd dau gwmni a grŵp amgylcheddol Cyfeillion y Ddaear wedi dadlau y byddai hynny'n achosi ansicrwydd economaidd aruthrol.

Dywed Cyfeillion y Ddaear fod dyddiad y newid "cynnar ac anghyfreithlon" wedi digwydd 11 diwrnod cyn diwedd cyfnod ymgynghori ar y taliadau, a'i fod eisoes wedi arwain at gynlluniau arfaethedig yn dod i ben.

Mae elusen sy'n cynrychioli dros 70 o gymdeithasau tai cymunedol yng Nghymru wedi dweud y bydd "miloedd o denantiaid ar eu colled" wedi i Lywodraeth San Steffan haneru'r taliadau.

Mae cymdeithasau tai wedi bod yn datblygu prosiectau i osod paneli ar filoedd o dai eu tenantiaid yng Nghymru, gan fwriadu gostwng eu biliau ynni a lleihau eu hôl troed carbon.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol