Prif Swyddog Meddygol Cymru i ymddeol
- Cyhoeddwyd
Ar ôl pum mlynedd o fod yn Brif Swyddog Meddygol Cymru, mae Dr Tony Jewell wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol y flwyddyn nesaf.
Dywed Mr Jewell, 61 oed, ei fod yn falch o beth sydd wedi'i gyflawni yn ystod ei gyfnod, a'i fod yn bwriadu parhau i gyfrannu tuag at iechyd cyhoeddus mewn gwledydd eraill.
Mae Mr Jewell wedi bod yn gefnogwr brwd o'r gwaharddiad ysmygu yn ogystal ag ymgyrchoedd i wella diet pobl a rhwystro'r camddefnydd o alcohol.
Ymgyrchodd i gyfyngu gwerthiant tybaco o beiriannau gwerthu a chefnogodd y cynllun i wahardd ysmygu mewn ceir.
'Gwasanaeth iechyd da'
"Mae wedi bod yn fraint i fod yn Brif Swyddog," meddai.
"Dywedais y byddwn i'n gwneud y gwaith am bum mlynedd pan gefais fy mhenodi felly rwy'n teimlo hwn yw'r adeg iawn imi symud ymlaen."
Diolchodd Mr Jewell ei staff am eu cefnogaeth yn ystod ei gyfnod yn y swydd.
"Rwy'n falch iawn bod iechyd cyhoeddus yn chwarae rhan fwy dylanwadol nag erioed o'r blaen o ran y gwasanaeth iechyd," meddai Mr Jewell, sy'n gobeithio gweithio gyda gwledydd is-Sahara yn y dyfodol.
"Mae strategaethau fel Ein Dyfodol Iach wedi gosod sylfaen i'r gwasanaeth iechyd roi mwy o bwyslais ar hyrwyddo iechyd ac atal afiechydon gan ganolbwyntio ar wneud y gwasanaeth iechyd yn wasanaeth iechyd da yn hytrach na gwasanaeth afiechyd."
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Mae Tony wedi chwarae rhan flaenllaw o ran datblygu enw da Cymru fel gwlad â pholisïau iechyd cyhoeddus blaengar."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2011