Y gêm olaf yn stadiwm pêl-droed Bangor
- Cyhoeddwyd
Mae'r hen gae wedi gweld pencampwriaethau'n cael eu hennill a chewri Ewrop yn cael eu trechu ond mae stadiwm Ffordd Farrar yn paratoi ar gyfer y gêm olaf.
Y fuddugoliaeth yn erbyn Prestatyn o 5-3 yn Uwchgynghrair Cymru oedd yr olaf yno cyn i'r stadiwm gael ei ddymchwel.
Wedi bron canrif o chwarae bydd Y Dinasyddion yn symud rhyw filltir a hanner i gartref newydd yn Nanporth ar lan y Fenai.
Bydd safle'r hen stadiwm yn cael ei ail-ddatblygu'n archfarchnad.
"Fortress Ffordd Farrar" oedd un o hoff ddywediadau Llywydd Anrhydeddus y clwb, Gwyn Pierce Owen.
"Mae fy atgofion yn rhai hapus iawn dros y 65 mlynedd yr wyf wedi bod yn gysylltiedig gyda'r clwb," meddai.
"Roedd fy nhad yn dod â fi yma yn fachgen 12 oed ac roeddwn i'n mynd ar goll yn y dorf.
"Roedd yn gyffrous dros ben. Doedd dim lle i sefyll hyd yn oed - roeddwn i'n arfer eistedd rhwng y llinell ochr a'r ffens."
Er ei fod yn gadeirydd, cyfarwyddwr a llywydd y clwb yn ogystal â dyfarnwr bydenwog, cefnogwr yw Gwyn yn fwy na dim.
Brenhinoedd yr Eidal
"Rydym wedi gwneud yn wych, gan gystadlu yn Ewrop wyth neu naw o weithiau, ennill y bencampwriaeth deirgwaith ers i mi fod yma.
"Ac wrth gwrs roedd Napoli - nhw oedd y brenhinoedd."
AC Napoli, Medi 1962, roedden nhw ar frig y gêm yn Ewrop, yn teithio i Fangor yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop.
Ond fe aeth rhywbeth o'i le.
Collodd yr Eidalwyr i'r chwaraewyr rhan-amser oedd ar y pryd yn chweched yng Nghynghrair Sir Caer.
Bangor oedd y tîm cyntaf o Gymru i ennill gêm yn Ewrop, o 2-0.
Collodd Bangor yr ail gymal o 3-1 yn yr Eidal, ac o dan y rheolau presennol fe fyddai'r Cymry wedi mynd ymlaen i'r rownd nesaf oherwydd y gôl oddi cartref.
Ond roedd y rheolau'n wahanol bryd hynny a bu'n rhaid cael gêm arall ar gae Arsenal yn Highbury, ac fe gollodd Bangor o 2-1.
Bu'n rhaid aros dros 20 mlynedd am y cyfle nesaf ond yn 1985 fe ddaeth cewri Sbaen - Atletico Madrid i Ffordd Farrar.
Mae'r sylwebydd a chefnogwr Ian Gill yn cofio ymdrech y ddinas gyfan a pharatoi'r stadiwm i gyrraedd safonau UEFA cyn i'r gêm allu digwydd o gwbl.
Ysbryd cymunedol
"Mae tipyn o lanast ar y cae rwan, ond doedd o fawr gwell yn 1985," meddai.
"Pan ddaeth yr enwau o'r het roedden ni'n gwybod y byddai torf o 6,000 yma. Roedd angen help pawb.
"Roedd hi fel comedi Ealing yma - roedd angen yr ysbryd cymunedol i sicrhau y byddai'r cae yn cyrraedd safonau UEFA.
"Roedd un o'r chwaraewyr - Paul Whelan - yn beintiwr a phapurwr ac yn blastrwr ac roedd o yna yn gweithio gyda'r gweddill, ac yn seren yng nghanol y cae ar ddiwrnod y gêm."
Fe ddaeth ambell antur Ewropeaidd arall tan 1995 pan benderfynwyd nad oedd y stadiwm yn cyrraedd safonau digonol i gystadlu yn Ewrop.
"Mae'r lle yn debyg i mi y dyddiau hyn," meddai Gwyn Pierce Owen, "ychydig yn hen ac yn fusgrell ac mae'n hen bryd i ni symud ymlaen."
Y ffarwel olaf
Ond mae un gêm ar ôl, yr un yn erbyn Prestatyn ar Ragfyr 27.
Enillodd Bangor Bencampwriaeth Cymru ddwywaith o'r blaen ond bu'n rhaid aros tan gêm olaf y tymor diwethaf i gipio'r teitl am y trydydd tro a hynny gyda buddugoliaeth ryfeddol yn erbyn Y Seintiau Newydd.
"Dwi'n siwr y bydd dagrau ddydd Mawrth," meddai Ian Gill cyn y gêm, "ond dagrau o falchder fyddan nhw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2011