Talu mwy i groesi'r pontydd

  • Cyhoeddwyd
Ail Bont HafrenFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2017, fe fydd y ddwy bont yn dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus

Mae pris newydd i yrwyr groesi'r ddwy bont dros Afon Hafren yn dod i rym ar Ionawr 1 2012.

Mae'r newidiadau yn ddigwyddiad blynyddol, sy'n cyd-fynd â Deddf Pontydd Hafren 1992.

I geir fe fydd 'na gynnydd o 30 ceiniog wrth iddyn nhw orfod talu £6.00.

Bydd gyrwyr faniau yn talu 60 ceiniog yn fwy sef £12.10 a gyrwyr lorïau trymion yn gweld cynnydd o 90 ceiniog, i £18.10.

Mae'r Ddeddf Seneddol 1992 yn nodi bod rhaid i Ail Bont Hafren, a gostiodd £380m, gael ei hariannu yn breifat yn hytrach na drwy drethi.

Mae tollau ar y bont gynta wedi bod mewn grym er 1966, ac mae hyn wedi golygu agor yr ail bont yn gynt na'r disgwyl gwreiddiol.

Yn 2017, bydd y ddyled ar y pontydd wedi ei thalu ac fe fydd y ddwy bont yn dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol