Gwleidyddiaeth: Be nesaf yn 2012?
- Cyhoeddwyd
Beth sydd ar y gweill i wleidyddion Cymru yn ystod 2012?
Bydd Llywodraeth Cymru yn bachu ar y cyfle i ddefnyddio eu pwerau deddfwriaethol newydd.
Fe fydd gan Blaid Cymru arweinydd newydd erbyn mis Mawrth.
Gall toriadau gwariant a'r posibilrwydd o gyflogau rhanbarthol arwain at fwy o streicio.
Hawl cyfreithiol
Mae Llywodraeth Cymru'n ystyried cyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n sefydlu system feddal ar gyfer dewis peidio â rhoi organau a meinweoedd ar ôl marwolaeth yng Nghymru.
Cyhoeddwyd Papur Gwyn ymgynghorol ym mis Tachwedd 2011 yn gofyn am sylwadau ar y cynigion hyn.
Daw'r ymgynghoriad i ben ar Ionawr 31 2012.
Ond yn ôl Dr Marie Navarro o Brifysgol Caerdydd, mae yna lawer o rwystrau i'w goresgyn cyn i'r syniad fod yn ddeddf.
Mae hi o'r farn efallai y bydd rhaid i Lywodraeth Cymru warantu hawl cyfreithiol teuluoedd i benderfynu ynglŷn â rhoi organau perthnasau ai peidio fel bod y Llywodraeth yn cydymffurfio â deddfau hawliau dynol.
Cyflogau rhanbarthol
Ym mis Tachwedd bu 170,000 o weithwyr yn streicio fel rhan o weithredu diwydiannol ynghylch pensiynau.
Mae Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Martin Mansfield yn credu gall fwy o streiciau gael eu cynnal wrth i bobl ddioddef o effaith y toriadau yn ogystal â'r posibilrwydd o gyflogau rhanbarthol yn cael eu cyflwyno.
"Mae Llywodraeth y DU wedi gofyn i gyrff adolygu cyflogau i ystyried y mater gan ofyn iddynt 'sut y byddech chi'n gweithredu cyflogau rhanbarthol' yn hytrach na gofyn iddynt 'gall hyn ddigwydd?' neu a ddylai hyn ddigwydd?'" meddai Mr Mansfield.
"Dydyn ni ddim yn disgwyl i gyflog sylfaenol gweithwyr cyhoeddus yng Nghymru fod yn wahanol i weithwyr yn Ne-Orllewin Lloegr neu Dde-Ddwyrain Lloegr."
Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn "positif iawn" wrth iddynt ddadlau bod cyflogau rhanbarthol yn "anaddas".
Arweinydd newydd
Ym mis Mawrth fe fydd Plaid Cymru yn ethol arweinydd newydd i gymryd lle Ieuan Wyn Jones.
Mae pedwar o aelodau'r blaid yn y Cynulliad wedi datgan eu bwriad i sefyll ar gyfer yr arweinyddiaeth, sef Elin Jones, yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, Simon Thomas a Leanne Wood.
Bydd rhaid i'r arweinydd newydd benderfynu sut i ddelio ag ymrwymiad y blaid ynghylch annibyniaeth dros Gymru yn ôl y sylwebydd gwleidyddol, Gareth Hughes.
Dywedodd y bydd llawer o sôn am y mater yn y Wasg Brydeinig cyn i'r Alban gynnal refferendwm ynglŷn â'i hannibyniaeth.
"Bydd y mater hwn ar frig yr agenda gwleidyddol ac fe fyddai Plaid Cymru yn ddoeth i fynd gyda'r llif," meddai.
Bydd etholiadau i ddewis cynghorwyr sir yn cael eu cynnal yng Nghymru ym mis Mai 2012 ac ym mis Tachwedd bydd yr etholiadau cyntaf erioed i ddewis Comisiynwyr yr Heddlu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2011