Gwella'r gofal i bobl â dementia
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Alzheimer's wedi gwobrwyo'r sefydliad cyntaf i gwblhau cwrs arbennig sydd wedi ei gynllunio i wella gofal pobl sydd â dementia.
Cymdeithas Tai Linc-Cymru yw'r cyntaf i dderbyn Tystysgrif Pencampwyr Dementia, ac fe fyddan nhw'n gwneud hynny mewn seremoni arbennig ddydd Gwener.
Bwriad y cwrs yw rhoi'r sgiliau i unigolion i greu diwylliant gofal sy'n canolbwyntio ar y person o fewn eu sefydliadau.
Bydd y cynllun i arweinwyr yn ceisio cynorthwyo darparwyr iechyd a gofal i wella ansawdd bywyd i bobl gyda dementia sydd dan ofal o unrhyw fath.
'Taith yn parhau'
Dywedodd Prif Weithredwr Linc-Cymru, Robert Smith: "Mae'r cynllun Pencampwyr Dementia wedi rho'r cyfle i ni osod a hybu ymarfer da, ac i ddarparu gofal o safon uchel iawn a gwasanaethau cefnogol i denantiaid a defnyddwyr sy'n byw gyda dementia.
"Nid yw cwblhau cwrs Pencampwyr Dementia yn golygu diwedd y daith i ni.
"Mae'r rhaglen yma wedi rhoi sail gadarn i ni barhau ar y daith tuag at ddarparu ansawdd bywyd gwell i bobl sydd â dementia."
'Trawsnewid yn hanfodol'
Sue Phelps yw Cyfarwyddwr Gweithredoedd Cymdeithas Alzheimer's Cymru, a dywedodd:
"Rydym yn falch iawn bod Linc-Cymru wedi ymroi i wella safon gofal i bobl sy'n byw gyda dementia.
"Mae dros 40,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia, ac felly mae'n hanfodol i drawsnewid y diwylliant o ofal dementia a newid bywydau drwy ddatblygu gweithlu mwy effeithiol a deallus."
Mae'r rhaglen Pencampwyr Dementia wedi ei ddatblygu gan Gymdeithas Alzheimer's er mwyn cydymffurfio gydag argymhellion Gweledigaeth Dementia Cenedlaethol Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2011