Dileu gwasanaeth epilepsi anghenion dysgu wedi 'rhoi bywydau mewn perygl'

Roedd Marie James - yma gyda'i mab Trystan - yn un o'r rhieni aeth â'r gŵyn at yr ombwdsmon
- Cyhoeddwyd
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi "ymddiheuro'n fawr" am y ffordd y delion nhw gyda'r broses o ddileu gwasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu.
Daw'r ymddiheuriad yn dilyn adroddiad hynod feirniadol gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.
Mae'n dweud fod y bwrdd iechyd "wedi methu â darparu gofal arbenigol parhaus i gleifion epilepsi ag anabledd dysgu (AD) ar ôl i'w wasanaeth pwrpasol ddod i ben ym mis Mehefin 2021".
Dywedodd rhieni un dyn sydd wedi cael ei effeithio gan dorri'r gwasanaeth, fod y penderfyniad wedi rhoi "bywydau mewn perygl".
Beth yw'r cefndir?
Roedd cŵyn wedi'i wneud i'r ombwdsmon ar ran saith achwynydd, sydd â phlant sy'n oedolion a oedd yn defnyddio'r gwasanaeth.
Roedden nhw'n dadlau fod Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi methu â rhoi darpariaeth ddigonol ar gyfer eu gofal ar ôl i'r gwasanaeth ddod i ben, ac nad oedd cynllun clir i fynd i'r afael ag anghenion cleifion epilepsi AD.
Mae gan lawer o'r cleifion anghenion cymhleth, ac maen nhw mewn perygl uwch o Farwolaeth Annisgwyl Sydyn mewn Epilepsi (SUDEP).
Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at yr effaith ar gleifion a'u gofalwyr, ac yn canfod "nad oes llwybr clir ar waith o hyd, bedair blynedd yn ddiweddarach, i sicrhau mynediad at ofal arbenigol priodol".

Dywedodd Marie James bod eu "rhwyd o ddiogelwch" wedi diflannu o ganlyniad i ddileu y gwasanaeth
Roedd Marie James a'i gŵr Perry o bentref Gorslas yn Sir Gâr yn un o'r rhieni aeth â'r gŵyn at yr ombwdsmon, ac mae'n rhan o grŵp Ymgyrch i Amddiffyn Bywydau Bregus.
Mae ei mab Trystan, 38, yn byw â chyflwr prin tuberous sclerosis.
Mae tiwmorau yn tyfu ar draws ei gorff, ac mae hyn wedi arwain at gymhlethdodau fel epilepsi, awtistiaeth, salwch yr arennau, problemau ar y galon ac osteoporosis.
Mae hefyd yn cael trawiadau (seizures), sy'n gallu digwydd mor aml â 67 gwaith o fewn 24 awr ar ei waethaf.
Dywed Ms James fod y penderfyniad i ddod â'r gwasanaeth epilepsi AD i ben yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cael effaith ar 170 o oedolion bregus, a'u gadael heb wasanaeth arbenigol, heb unrhyw ymgynghori nac unrhyw wybodaeth i'w gofalwyr.
Un o bryderon mawr y rhieni, yn ôl Ms James, oedd bod eu plant bregus yn wynebu risg uwch o farwolaeth gynnar ar ôl i'r gwasanaeth epilepsi "safon aur" ddod i ben.
'Ein gadael yn y tywllwch'
"Mae pobl ag anghenion dwys angen y gofal gorau posib, i gael y bywydau gorau gallan nhw gael," meddai.
"Fe gawson ni y gorau gan y gwasanaeth arbenigol i gefnogi ni fel teulu i atal seizures Trystan.
"Ond wedyn, yn annisgwyl daeth hwnna i ben dros nos, ac fe gawson ni ein gadael yn y tywllwch.
"Fe ddiflannodd ein rhwyd o ddiogelwch."

Mae mab Marie James, Trystan, yn byw â chyflwr prin tuberous sclerosis
Ychwanegodd Ms James: "Yn amlwg roedd y penderfyniad i ddiweddu y gwasanaeth wedi dodi bywydau mewn perygl.
"Roedd cyfrifoldeb arnom ni fel teuluoedd i reoli faint o epileptic seizures bydde ein hanwyliaid yn cael.
"Dyw hynny ddim yn rhwydd, yn enwedig mewn sefyllfaoedd o argyfwng. Doedd neb gyda ni i droi atyn nhw am help."
Erbyn hyn mae Trystan yn cael gofal gan niwrolegydd yn Abertawe, ond mae ei fam yn dweud ei bod yn teimlo dros deuluoedd eraill sydd ddim yn derbyn gwasanaeth o'r fath.
"Pan oedd yr hen drefn yn bodoli roedd modd cysylltu ag arbenigwr yn syth am ateb.
"Mae colli y gwasanaeth wedi creu risg uwch o bobl yn marw yn gynnar o bethau y gellid bod yn eu hosgoi."
- Cyhoeddwyd22 Medi
Mae grŵp Ymgyrch i Amddiffyn Bywydau Bregus yn croesawu adroddiad yr ombwdsmon.
Maen nhw'n dweud fod yn rhaid i'r bwrdd iechyd weithredu ar frys i ddelio â'r "anghyfiawnder i deuluoedd", a chynnig gwasanaeth arbenigol addas i bob oedolyn sydd ag epilepsi neu anghenion dysgu ychwanegol.

Dywedodd Michelle Morris fod dileu'r gwasanaeth wedi "cynrychioli anghyfiawnder difrifol i gleifion a'u teuluoedd"
Yn yr adroddiad beirniadol, mae'r ombwdsmon Michelle Morris yn dweud fod "diffyg darpariaeth gwasanaeth, cyfathrebu gwael, ac ymateb araf i gwynion wedi achosi gofid sylweddol i'r saith achwynydd".
"Mae'r gofalwyr wedi disgrifio teimlo bod y bwrdd iechyd wedi troi eu cefn arnynt a'u gadael heb gefnogaeth, ac yn ansicr gyda phwy i gysylltu â nhw i gael cyngor neu gymorth, wrth iddynt orfod ymrafael â phroses gwyno hir heb ganlyniad clir.
Ychwanegodd Ms Morris fod rôl gofalwr eisoes yn un anodd, a bod "cael gwared yn sydyn â system gymorth allweddol wedi ychwanegu at eu straen".
"Mae hyn yn cynrychioli anghyfiawnder difrifol i gleifion a'u teuluoedd, ac rwy'n ymwybodol y gallai eraill fod yn profi methiannau tebyg.
"Rhaid i'r bwrdd iechyd gymryd camau brys nawr i sicrhau bod y cleifion hyn sy'n agored i niwed a'u gofalwyr yn derbyn y gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt."
'Ymdrechu i wella'
Mewn ymateb i'r feirniadaeth dywedodd Sharon Daniel o Fwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod yn ymddiheuro o waelod calon am y gofid sydd wedi'i achosi.
"Nid dyma sut yr ydym am berfformio fel bwrdd iechyd a byddwn yn ymdrechu i wella hyn," meddai.
"Rydym yn cydnabod bod y ffordd y gwnaethom ymdrin â dileu'r gwasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu arbenigol a'r ffordd y gwnaethom ymdrin â chwynion cleifion wedi arwain at ddiffyg ymddiriedaeth yn y bwrdd iechyd, a rhaid inni ailadeiladu'r ymddiriedaeth hon gyda chleifion a gofalwyr."
- Cyhoeddwyd27 Medi 2024
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2024
Mae'r ombwdsman yn gwneud pum argymhelliad i'r bwrdd iechyd, gan gynnwys "cymryd camau dybryd" er mwyn sicrhau fod pob claf yn gallu cael mynediad at ofal sy'n addas i'w hanghenion.
Mae hefyd yn galw am adolygu rhestrau aros cleifion epilepsi AD er mwyn "sicrhau nad oes unrhyw glaf yn cael ei esgeuluso".
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd eu bod "wedi dechrau gweithio ar ffyrdd y gallwn wella".
Mae hyn yn cynnwys penodi Nyrs Arbenigol Epilepsi Anabledd Dysgu, ac maen nhw hefyd yn gweithio ar Gynllun Gwella Gwasanaeth Anableddau Dysgu.
Nod hynny, meddai'r bwrdd iechyd, yw "datblygu model gwasanaeth newydd a fydd yn sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu yn derbyn mynediad teg, cyfartal a chanolbwyntio ar y person i ofal iechyd".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.