Uchafswm budd-dal tai yn destun pryder i'r digartref
- Cyhoeddwyd
Honnir y bydd mwy na 30,000 o dai y tu hwnt i gyllideb pobl ar fudd-dal tai oherwydd uchafswm newydd ar faint o arian y byddant yn ei dderbyn.
Mae Sefydliad Siartredig Cartrefi Cymru (CIH) yn dweud bod newidiadau gan lywodraeth y DU yn golygu prinder o dai ar rent mewn rhai mannau.
Ymhob un ond dau o 22 awdurdod lleol Cymru, dywed CIH na fydd digon o dai ar gael i ateb y galw gan ddarpar denantiaid.
Dywed llywodraeth y DU bod eu diwygiadau yn adfer tegwch i sustem sydd wedi "mynd allan o bob rheolaeth".
Cymru a Chaerdydd
O'r mis yma, bydd uchafswm ar fudd-dal tai - £250 yr wythnos am dŷ un llofft i £400 am un pedwar llofft.
Yn ôl CIH, bydd Cymru'n dioddef yn ddrwg oherwydd hyn gan adael rhai cynghorau gyda thri pherson yn ceisio am bob tŷ preifat ar rent.
Effaith fwyaf y newid medd CIH fyddai'r un ar lwfans tai - y budd-dal sy'n cael ei dalu i denantiaid landlordiaid preifat - fyddai'n gyfwerth â thraean isaf rhenti mewn unrhyw ardal.
Amcangyfrif CIH yw y bydd 30,640 o dai yn cael eu colli o'r farchnad yma o ganlyniad i'r newid. Caerdydd fydd yn diodde' waethaf gan roi 5,590 o gartrefi allan o afael tenantiaid.
'Anghyfartaledd'
Dywedodd Rheolwr Polisi CIH Cymru, Vicki Hiscocks: "Mae'r newidiadau yma'n cael effaith gwaeth ar Gymru o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU yn nhermau anghyfartaledd rhwng nifer y tai ar gael a'r galw amdanynt.
"Bydd goblygiadau'r newid yn enfawr gyda miloedd o bobl yn methu cael cartrefi yn lleol ac yn gorfod symud, gan greu getos budd-dal."
Ychwanegodd fod pryder y bydd llawer o denantiaid preifat yn wynebu'r dewis o golli'u cartrefi, benthyg mwy neu wario llai ar fwyd.
"Mae'n gamsyniad cyffredin meddwl bod y diwygiadau yma ond yn cael effaith ar bobl sy'n ddi-waith, ond mae bron cymaint o bobl sydd mewn gwaith yn mynd i ddioddef," meddai.
£130m
Dywedodd Adran Gwaith a Phensiynau'r llywodraeth y bydd budd-dal tai yn dal i fedru talu rhent o hyd at £20,800 y flwyddyn wedi'r newid.
Meddai llefarydd ar ran yr Adran: "Does dim rheswm pam y byddai ein diwygiadau budd-dal yn gadael unrhyw un yn ddigartref.
"Pwrpas y diwygiadau yw adfer tegwch a synnwyr i sustem sydd wedi mynd allan o bob rheolaeth gan adael cymunedau yn sownd mewn cylch o ddibyniaeth ar fudd-daliadau."
Bydd cynghorau'n derbyn £130 miliwn yn ychwanegol er mwyn "hwyluso'r newidiadau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2011