Arweinyddiaeth: Enwebiad ffurfiol
- Cyhoeddwyd
Mae Pwyllgor Etholaeth Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd wedi enwebu eu Haelod Cynulliad, Dafydd Elis-Thomas, fel ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru.
Arglwydd Elis-Thomas yw'r cyntaf i gael ei enwebu'n ffurfiol ond mae disgwyl i dri arall ymuno ag ef yn y ras.
Y tri arall yw Simon Thomas, Leanne Wood ac Elin Jones.
Bydd yr enillydd yn olynu Ieuan Wyn Jones ar ôl iddo ef gyhoeddi'r llynedd y byddai'n ildio'r awenau.
Bydd yr enwebiadau yn cau ar Ionawr 26 a'r sustem bleidlais amgen yn cael ei defnyddio.
Aelodau Plaid Cymru ac aelodau newydd sy'n ymuno cyn dyddiad cau'r enwebiadau fydd yn cael pleidleisio.
Bydd enw'r arweinydd newydd yn cael ei gyhoeddi yng Nghaerdydd ar Fawrth 15.
'
'Cefnogaeth lawn'
Daeth enwebiad cangen Dwyfor Meirionnydd yn dilyn cyfarfod nos Wener.
Mewn datganiad o anogaeth, dywedodd Lis Puw, Cadeirydd y Pwyllgor Etholaeth:
"Gwahoddwn aelodau Plaid Cymru o bob rhan o Gymru i ddefnyddio eu pleidlais amgen i'r eithaf yn yr etholiad yma, i gefnogi Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd.
"Cafodd gefnogaeth lawn ein Pwyllgor Etholaeth pan gytunodd fis Mai diwethaf i gyflwyno ei enw a nawr iddo gael ei enwebu'n ffurfiol, bydd ein hymgyrch yn dechrau'n swyddogol.
"Mae eisoes wedi profi ei allu i wasanaethu pob rhan o Gymru fel Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol am ddeuddeg mlynedd lle dangosodd benderfyniad i ymwreiddio sefydliad newydd yn gadarn yng nghalonnau a meddyliau pobl Cymru.
'Grym gwirioneddol'
"Rydym yn hyderus y bydd fel arweinydd y Blaid yn gweithio i gynrychioli pobl ym mhob rhan o Gymru.
"Mae eisoes wedi dangos arweinyddiaeth polisi clir drwy roi mater yr amgylchedd a datblygu cynaliadwy yng nghanol ei ymgyrch gan danlinellu mai swyddi cynaliadwy gwyrdd yw'r unig ymateb effeithiol i'r argyfwng economaidd presennol.
"Dywedodd eisoes mai'r etholiad cyffredinol i gynghorau dinas, siroedd a chymuned Cymru yw ei flaenoriaeth ar gyfer 2012 ac rydym yn hyderus y gall Plaid Cymru dan ei arweiniad ef fod yn rym gwirioneddol i gryfhau democratiaeth Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2011