Arweinydd: Agor enwebiadau
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyfnod enwebu yn agor ddydd Mawrth ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru.
Ieuan Wyn Jones sydd wedi arwain grŵp Plaid yn y Cynulliad ers 2000 a llwyddodd i wrthsefyll ymgais i'w ddisodli yn 2003.
Mae pedwar Aelod Cynulliad wedi datgan eu bwriad i ymgeisio, Aelod Ceredigion Elin Jones, yr Aelod dros Ddwyfor Meirionnydd, Yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, cynrychiolydd Canolbarth a Gorllewin Cymru Simon Thomas a'r Aelod dros Ganol De Cymru Leanne Wood.
Bydd yr enwebiadau yn cau ar Ionawr 26 a'r sustem bleidlais amgen yn cael ei defnyddio.
Canlyniadau siomedig
Ym Mis Mai cyhoeddodd Ieuan Wyn Jones ei fwriad i ildio'r awenau wedi canlyniadau siomedig yn Etholiad y Cynulliad.
Mae Dafydd Elis Thomas yn disgwyl enwebiad ei gangen leol cyn gwneud sylw ffurfiol ond deallir y bydd yn gwneud hi'n glir nad yw'n barod i gydweithio gyda'r Ceidwadwyr.
Canolbwyntio ar agor drysau Plaid Cymru i bob person yng Nghymru fydd ffocws Elin Jones.
"Ar ôl pedair ymgyrch etholiadol lwyddiannus yng Ngheredigion rydw i wedi ehangu apêl Plaid Cymru.
"Rydw i am sicrhau drwy Gymru gyfan ein bod ni'n gallu apelio at bobol o bob cefndir, pobol sydd ddim wedi pleidleisio dros Blaid Cymru yn y gorffennol ond sydd yn rhannu fy ngweledigaeth am newid.
"Yn y pendraw ein huchelgais yw gwneud Cymru yn wlad annibynnol lwyddiannus."
Consensws
Mae Simon Thomas yn gyn Aelod Seneddol a bu'n gweithio fel ymgynghorydd i Blaid Cymru yn y llywodraeth glymblaid.
Ceisio bod yn arweinydd fydd yn sicrhau consensws yw ei nod.
"Mae 'na deimlad o fewn y blaid nad ydyn ni wedi gwneud y mwyaf o'r ffaith ein bod ni wedi bod mewn llywodraeth.
"Efallai na wnaeth y Blaid ddathlu'r ffaith yn ddigonol a chymryd y clod am yr hyn a gyflawnwyd mewn llywodraeth.
"Mae angen i'r arweinydd nesaf fod yn rhywun sy'n gallu gweithio gyda phobol â barn wahanol a dod â nhw at ei gilydd"
'Heriau economaidd'
Yr Aelod dros Ganol De Cymru, Leanne Wood yw'r ymgeisydd arall.
Bu'n Aelod Cynulliad ers 2003 ac mae'n dweud y bydd hi'n canolbwyntio ar yr economi er mwyn symud Cymru ymlaen at "wir annibyniaeth".
"Mae fy mhrofiad uniongyrchol o ddirwasgiad a'i effaith yn ystod y 1980au yn fy ngwneud yn benderfynol o sicrhau nad ydyn ni'n colli cenhedlaeth arall eto oherwydd diweithdra ymhlith yr ifanc.
"Mae mynd i'r afael â'r heriau economaidd hynny yn rhywbeth sy'n mynd law yn llaw gyda'n taith ni tuag at annibyniaeth."
Aelodau Plaid Cymru ac aelodau newydd sy'n ymuno cyn dyddiad cau'r enwebiadau fydd yn cael pleidleisio.
Bydd enw'r arweinydd newydd yn cael ei gyhoeddi yng Nghaerdydd ar Fawrth 15.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2011