Penblwydd un o raglenni Radio Cymru

  • Cyhoeddwyd
Dylan Llewelyn, Dylan Jones a Gary PrichardFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Lleisiau cynnar Ar Y Marc, Dylan Llewelyn, Dylan Jones a Gary Prichard

Ar benwythnos Trydedd Rownd Cwpan yr FA mae un o raglenni BBC Radio Cymru yn dathlu 20 mlynedd o ddarlledu a thrin a thrafod y bêl-gron.

Ar yr un penwythnos a phan gurodd Wrecsam Arsenal o ddwy gôl i un yn y gystadleuaeth fe wnaeth Dylan Jones groesawu gwrandawyr i raglen Ar y Marc, yn ei ddull unigryw ei hun.

Mae 'na 20 mlynedd ers y rhaglen gyntaf sy'n rhoi sylw i bêl-droed Cymru bob bore Sadwrn.

Ond dywedodd y cyflwynydd mai chwe rhaglen oedd i fod.

"Ar y dechrau roedden ni'n trin pob dim o dan haul o fewn y byd chwaraeon," meddai Dylan Jones.

"Ond fel rhaglen rydan ni wedi datblygu ac esblygu ac yn canolbwyntio ar bêl-droed erbyn hyn."

Mae'n gwadu mai cychwyn Ar y Marc roddodd yr ysbrydoliaeth i Wrecsam guro'r Gunners nôl yn 1992.

"Dwi ddim yn meddwl allwn ni dderbyn y clod.

"Dwi'n cofio holi un o selogion y Cae Ras, Dei Charles o Lanuwchllyn, ar y rhaglen gyntaf yn rhagweld y byddai'r tîm cartref yn colli o 3-1.

"Pwy fyddai wedi meddwl y byddai Wrecsam wedi curo'r pencampwyr ac y byddai Ar y Marc wedi goroesi."

Ar y rhaglen dathlu ddydd Sadwrn fe fu'r criw yn trafod y newidiadau sydd wedi bod ym mhêl-droed Cymru yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf.

O sefydlu Uwchgynghrair Cymru ac Uwchgynghrair Lloegr i weld Caerdydd, Wrecsam ac Abertawe yn codi a disgyn o fewn y cynghreiriau.

Ar y rhaglen hefyd cafwyd cân i ddathlu'r achlysur gan Ywain Gwynedd, cyn leisydd y band Frizbee ac un o chwaraewyr tîm pêl-droed Caernarfon.

Llwyddodd i gyfleu prif ddigwyddiadau'r byd pêl-droed yn ystod 20 mlynedd diwethaf, o fuddugoliaeth Wrecsam, methiannau tîm Cymru, llwyddiant Uwchgynghrair Cymru, helyntion Abertae a Chaerdydd.

Gallwch wrando ar y rhaglen 20 oed unwaith eto ar yr iPlayer.

Hefyd gan y BBC