Cymru 'ar y brig' o ran bwlch cyflogau
- Cyhoeddwyd
Gall menywod sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus ennill 18.5% yn fwy na fydden nhw'n ennill yn y sector preifat a gall dynion ennill 18% yn fwy, yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (SAC).
Mae SAC yn amcangyfrif mai'r bwlch rhwng y cyflogau yn y ddau sector yng Nghymru yw'r mwyaf yn y Deyrnas Unedig.
Bydd Aelodau Seneddol yn dadlau ynglŷn â chynigion i gyflwyno cyflogau sector cyhoeddus rhanbarthol ddydd Mawrth.
Dywed Llywodraeth y DU eu bod am greu economi fwy cytbwys ond mae beirniaid y cynllun yn honni y byddai Cymru ar ei cholled pe bai'r cynllun yn cael ei gyflwyno.
Cyflwyno adroddiad
Mae ffigyrau newydd gan SAC yn datgan faint yn fwy gall gweithwyr sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ennill o'i gymharu â'r sector preifat.
Mae SAC yn amcangyfrif bod menywod â chymwysterau tebyg - sef menywod o'r un oedran, yr un lefel o addysg a'r un cymwysterau - yn ennill 18.5% yn fwy na'r rheiny sy'n gweithio yn y sector preifat yng Nghymru.
Y cyfartaledd ar gyfer y DU yw 10.2%.
Y ffigwr ar gyfer dynion yng Nghymru yw 18%, o'i gymharu â 4.6% o ran y DU.
Dywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards, fod y ffigyrau'n dangos y gallai Cymru golli arian sylweddol pe bai cyflogau'r sector cyhoeddus yn cael eu torri.
"Rydyn ni'n sôn am swm anferthol o arian yn gadael pocedi gweithwyr cyffredin," dywedodd Mr Edwards, sydd wedi gosod dadl ar gyfer cyflogau rhanbarthol yn Neuadd San Steffan.
Problemau
Y llynedd dywedodd y Canghellor, George Osborne, y byddai cyrff adolygu cyflogau annibynnol yn cyflwyno adroddiad yn yr haf ynghylch y posibilrwydd o sicrhau bod y sector cyhoeddus yn "fwy ymatebol i farchnadoedd llafur lleol".
Dywedodd fod y syniad yn "gam arwyddocaol tuag at greu economi fwy cytbwys yn rhanbarthau ein gwlad, a hynny heb wasgu ar y sector preifat".
Dywed Gweinidogion nad yw'r syniad yn un newydd a'i fod wedi cael ei gynnig gan y Llywodraeth Lafur flaenorol.
Dywedodd Victoria Cannon, sy'n gyfreithiwr, ei bod wedi cael problemau wrth geisio denu cynorthwyydd cyfreithiol i weithio yn swyddfa ei chwmni yn Aberhonddu.
"Mae'r sector cyhoeddus yn gallu cynnig cyflogau uwch ond nid ydyn ni'n gallu gwneud hyn yn y sector preifat," meddai.
"Yn ogystal mae'r sector cyhoeddus yn gallu cynnig buddiannau fel pensiynau a gweithio hyblyg nad ydym yn gallu cynnig am ein bod yn gwmni bychan."
Cymryd cyfrifoldeb
Dywedodd Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol, Roger Williams, fod cyflogwyr yn ei etholaeth ym Mrycheiniog a Maesyfed wedi dweud wrtho nad ydynt yn gallu cystadlu â'r cyngor lleol.
"Ond fe fydd gostyngiad mewn graddfeydd cyflogau yn lleihau'r galw yn yr economi a dydw i ddim yn meddwl bod hyn yn syniad da iawn ar hyn o bryd," ychwanegodd.
Mae Democratiaid Rhyddfrydol a Cheidwadwyr eraill yng Nghymru wedi datgan eu bod yn wyliadwrus ynghylch y posibilrwydd y bydd Llywodraeth y glymblaid yn San Steffan yn dod â threfniadau cyflog sy'n gymwys ar draws y DU i ben.
Croesawodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies, yr adolygiad ond rhybuddiodd ynglŷn â "chreu gwahaniaethau mewn rhannau o'r Deyrnas Unedig".
Dywedodd Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black: "Nid y ffordd ranbarthol yw'r trywydd cywir i'w ddilyn."
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi galw tâl rhanbarthol yn "derm arall am dorri cyflogau" gan ychwanegu y gallai Llywodraeth Cymru ystyried cymryd cyfrifoldeb dros gyflogau ac amodau gwaith.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2011