CBAC: Gorfodi i dynnu papur yn ôl
- Cyhoeddwyd
Mae Bwrdd Arholi CBAC wedi eu gorfodi i dynnu papur arholiad a oedd i fod i gael ei ddefnyddio ym mis Ionawr yn ôl.
Daw hyn ar ôl iddi ddod i'r amlwg bod un o'i arholwyr wedi datgelu manylion y cwestiynau mewn seminar.
Mae Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, wedi dweud wrth y bwrdd na ddylai'r papur Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Uned 3 gael ei ddefnyddio ar gyfer yr arholiad gan ddisgyblion Cymru a Lloegr fis nesa.
Mae'n rhaid iddo gael ei ailysgrifennu ar ôl i'r digwyddiad ddod yn amlwg.
Roedd disgwyl i tua 150 o ddisgyblion yng Nghymru sefyll y papur a does 'na ddim gwybodaeth am y nifer yn Lloegr.
Mewn datganiad gan CBAC maen nhw'n dweud eu bod yn cysylltu ag 11 o ysgolion a cholegau yng Nghymru a Lloegr er mwyn gohirio arholiad Uned 3 TGAU TGCh a oedd i'w gynnal ar Ionawr 17.
Yn ôl y bwrdd fe fydd yr arholiad yn cael ei ail-drefnu, gyda phapur arholiad newydd, i'w sefyll yn gynnar ym mis Mawrth.
"Gwnaethpwyd y penderfyniad i ohirio ar ôl sylweddoli nad oedd cyngor a roddwyd mewn digwyddiadau datblygu proffesiynol diweddar ar gael i athrawon pob un o'r 11 canolfan ag ymgeiswyr ar gyfer yr arholiad hwn.
"Roedd y cyngor yn delio â sgôp un o'r meysydd posibl i'w trafod yn yr arholiad, oedd yn cynrychioli llai na 2% o farciau'r cymhwyster.
"Mae CBAC yn ymddiheuro am yr anghyfleustra a achosir i'r ymgeiswyr, ac i'r ysgolion a cholegau dan sylw."
Ffilmio cudd
Credir bod y ffaith bod cynnwys y papur wedi ei ddatgelu mewn seminar yn ystod ymchwiliad mewn gan CBAC.
Mae CBAC wedi bod o dan y chwyddwydr dros yr wythnosau diwethaf ar ôl ymchwiliad gan bapur newydd a fu'n ffilmio arholwyr yn gudd mewn seminarau lle mae athrawon yn cael gwybodaeth ar berfformiadau disgyblion mewn arholiadau blaenorol.
Cafodd dau arholwr hanes eu ffilmio gan Y Daily Telegraph.
Mae'r ddau wedi gwadu'n daer eu bod wedi torri unrhyw reolau neu ganllawiau.
Fe ddywedon nhw wrth bwyllgor o Aelodau Seneddol yr wythnos diwethaf bod eu sylwadau wedi eu cymryd "allan o'u cyd-destun".
Dywedodd Prif Weithredwr CBAC, Gareth Pierce, wrth yr un pwyllgor na chafodd hygrededd y papur hanes TGAU ar gyfer 2012 ei gyfaddawdu o ganlyniad i'r ffilmio ac na fydden nhw'n ei dynnu yn ôl.
Golyga'r newyddion diweddara bod 'na ddigon o bryder bod athrawon yn y seminar Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu wedi cael cymaint o wybodaeth fel bod rhaid tynnu'r papur yn ôl.
Trafodaeth
Er hynny, mae Mr Andrews wedi gorchymyn ymchwiliad eang o'r system arholi a dyfarnu canlyniadau yng Nghymru.
Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am reoleiddio arholiadau yng Nghymru.
Mae disgwyl i Mr Andrews gyfarfod llefarydd addysg yr wrthblaid a'r rhai sy'n llefaru ar y maes o bleidiau gwleidyddol eraill i drafod y sefyllfa gyda nhw.
Fe fydd rheoleiddwyr arholiadau yn Lloegr, Ofqual yn cyhoeddi adroddiad ddydd Mercher mewn perthynas â'r hyn ymddangosodd yn y Daily Telegraph.
Dywedodd nad oedd modd gwneud sylw tan hynny.
Mewn datganiad gan CBAC dywedodd y bydd dyddiad newydd ar gyfer yr arholiad yn cael ei gyhoeddi yn wythnos gyntaf Ionawr.
"Unwaith i ni ddarganfod bod gwybodaeth am sgôp y meysydd i'w trafod yn arholiad mis Ionawr wedi cael ei rhoi i rai athrawon, ond nid i bob un, gadawon ni i Ofqual a'r AAaS wybod yn syth," meddai Gareth Pierce, Prif Weithredwr CBAC.
"Rydan ni'n awyddus i gysylltu â'r 11 canolfan arholiadau cyn gynted â phosibl, er mwyn iddyn nhw gael gadael i'r ymgeiswyr wybod bod yr arholiad wedi ei ohirio, a'u sicrhau y byddan nhw'n gallu sefyll yr arholiad yn gynnar ym mis Mawrth.
"Fel bob amser, buddiannau'r ymgeiswyr yw ein blaenoriaeth bennaf."
'Allweddol'
Dywedodd y Gweinidog: "Un agwedd allweddol ar ein hystyriaeth yw'r angen i sicrhau tegwch ar gyfer y dysgwyr hynny y mae'r digwyddiadau a amlygwyd gan y Daily Telegraph yn effeithio arnynt a'n hymchwiliadau dilynol.
"Ar hyn o bryd, mae'n edrych yn debyg bod CBAC yn fwrdd arholi ar gyfer cwrs penodol sy'n achosi pryder, sef cwrs TGAU Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu. Mae arholiad wedi'i drefnu fel rhan o'r cwrs hwnnw ar 17 Ionawr 2012.
"Fel rheoleiddiwr, rwyf wedi gofyn i CBAC ganslo'r arholiad ym mis Ionawr, diwygio'r papurau perthnasol ac ad-drefnu'r arholiad ym mis Mawrth 2012, ac maent wedi ymrwymo i wneud hyn.
"Bydd yn gyfle i bob dysgwr sy'n sefyll yr arholiad gael cadarnhad bod yr holl gyd-destunau a gyflwynir yn y fanyleb yn cael eu cwmpasu gan yr asesiad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2011