Gillan o dan y lach am werthu tŷ

  • Cyhoeddwyd
Cheryl GillanFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tŷ 500 llath o lwybr rheilffordd yr HS2

Mae'r Blaid Lafur wedi beirniadu Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, am werthu ei thŷ sydd gerllaw rheilffordd gyflym iawn arfaethedig.

Cafodd y tŷ ei werthu ddau fis cyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gymeradwyo'r cynllun.

Gwerthodd hi'r tŷ teras o'r ail ganrif ar bymtheg yn Amersham, Sir Buckingham, ym mis Tachwedd am £320,000.

Dywedodd llefarydd ar ei rhan fod y tŷ ar y farchnad er mis Mehefin 2010 ac fe gafodd ei werthu am 20% yn llai na'r pris gwreiddiol.

Ymddiswyddo

Mae'r tŷ 500 llath o lwybr rheilffordd yr HS2 gafodd ei chymeradwyo'r wythnos diwethaf gan y Gweinidog Trafnidiaeth, Justine Greening.

Fe fydd y rheilffordd yn mynd trwy ei hetholaeth ac mae hi'n gwrthwynebu'n chwyrn.

Roedd hi wedi bygwth ymddiswyddo pe bai'r cynllun yn mynd yn ei flaen ac roedd gwrthwynebwyr yn ei hetholaeth, Chesham ac Amersham, wedi honni y byddai'r rheilffordd yn "difetha'r ardal".

Yr wythnos diwethaf dywedodd hi effaith y rheilffordd wedi ei lleddfu oherwydd y byddai mwy o dwneli yn cael eu codi.

Dywedodd llefarydd ar ran Mrs Gillan nad oedd unrhyw gysylltiad rhwng gwerthu'r tŷ â chynllun yr HS2 a'i bod wedi gwerthu'r tŷ oherwydd na allai hi na'i gŵr 84 oed ddringo'r grisiau.

Ychwanegodd fod Mrs Gillan â phroblemau symudedd wedi salwch yn 2006.

Mae Gweinidog Swyddfa'r Cabinet yr Wrthblaid, Jon Tricket, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, David Cameron, yn ei annog i ymchwilio i'r mater.

Ac mae Mr Tricket wedi gofyn a yw Mrs Gillan yn torri Cod Ymddygiad Gweinidogion y Llywodraeth, sy'n gwahardd gwrthdaro rhwng dyletswyddau cyhoeddus a buddiannau preifat.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol