Peacocks: Trafod â benthycwyr
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni Peacocks wedi dweud bod trafodaethau'n parhau wrth geisio ailstwythuro benthyciadau o tua £240 miliwn.
Roedd adroddiad ym mhapur newydd y Telegraph yn awgrymu bod y trafodaethau hyd yn hyn wedi methu a bod posibilrwydd y byddai'r cwmni yn cael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr.
Mae'r cwmni'n cyflogi mwy na 400 yn ei bencadlys yng Nghaerdydd ac mae Kevin Brennan, AS Gorllewin Caerdydd, wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i ymyrryd.
"Gallai hon fod yn ergyd fawr i bobol Caerdydd a de Cymru," meddai, "a byddai'n niweidio economi Cymru'n fawr iawn.
"Dwi'n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i wneud popeth posib, nid yn unig i annog mwy o drafodaethau rhwng y cwmni a'u banciau a'u benthycwyr ond hefyd helpu'r cwmni i ddiogellu swyddi."
Eisoes mae ymgynghorwyr annibynnol KPMG yn adolygu llyfrau'r cwmni â 550 o siopau ym Mhrydain.
Yng Nghaerdydd mae pencadlys Peacocks ers 72 o flynyddoedd ond yn Sir Gaer y ffurfiodd Albert Peacock y cwmni yn 1884.
Cynnydd
Cyhoeddodd y cwmni fod 17% yn fwy o werthiant dros y Nadolig.
Mae'r BBC yn deall bod y cwmni'n masnachu ac yn gwneud elw ar hyn o bryd ac mai mater o RBS yn tynnu'n ôl o'r trafodaethau oedd y broblem bosib.
Dywedodd llefarydd ar ran Barclays: "Mae Barclays wedi bod yn fodlon cefnogi'r rheolwyr wrth geisio ail-strwythuro'r busnes bob cam o'r daith."
Gofynnwyd i RBS am sylw.