Gatland yn enwi carfan o 35
- Cyhoeddwyd
Cafodd 35 o chwaraewyr Cymru eu henwi yn y garfan fydd yn mynd i Wlad Pwyl i ymarfer fel rhan o'u paratoadau ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi mai Sam Warburton fydd yn parhau yn gapten wedi cyfnod o arwain yn ystod Cwpan y Byd yn Seland Newydd.
Fe fydd y garfan yn teithio i Gdańsk, yng Ngwlad Pwyl yr wythnos nesaf ar gyfer hyfforddiant.
Bydd carfan o 30 yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach yr wythnos nesa' ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, gydag ymgyrch Cymru yn dechrau ar Chwefror 5 oddi cartre' yn erbyn Iwerddon.
Mae'r rhan fwyaf o'r chwaraewyr ymysg y rhai aeth i Seland Newydd.
Mae canolwr y Gleision, Gavin Henson, wedi ei gynnwys hefyd ond dyw maswr y Scarlets Stephen Jones ddim yno.
Profiad
Ychwanegodd Gatland bedwar enw i'r 35 a gyhoeddodd ar gyfer hyfforddiant cyn Cwpan y Byd a'r gêm ryngwladol yn erbyn Awstralia ym mis Rhagfyr.
Y pedwar yw prop y Saracens Rhys Gill, Ashley Beck a Rhys Webb o'r Gweilch a Harry Robinson o'r Gleision.
Wedi wythnos yng Ngwlad Pwyl fe fydd y garfan yn cael ei chwtogi unwaith eto.
Mae Gatland yn hyderus bod ganddo'r cymysgedd cywir o ieuenctid a thalent ar gyfer y bencampwriaeth a fydd yn cychwyn yn erbyn Iwerddon ar Chwefror 5 yn Nulyn.
Mae tri o chwaraewyr yn ymuno a'r garfan o dimau yn Lloegr, Craig Mitchell, Rhys Gill ac Andy Powell wrth i'r tri yn Ffrainc, James Hook, Mike Phillips a Lee Byrne fod ar gael ar gyfer y gemau er y bydd eu cyfnod hyfforddiant yn llai.
"Rydym wedi ceisio cael balans o'r profiadol a'r ifanc ac wedi cynnwys y rhai oedd yn amlwg yn y gemau yn Seland Newydd," meddai Gatland.
"Rydym yn rhoi cyfle hefyd i rai ifanc gael profiad.
"Mae rhai o'r hen do yn dal yn y garfan ac mae 'na anafiadau sy'n golygu nad yw Alun Wyn Jones, Josh Turnbull, Rob McCusker a Luke Charteris ar gael.
"Mae'n amser cyffrous i rygbi Cymru ac roedd y gemau yn Seland Newydd yn dangos y potensial.
"Fe fyddwn ni'n gweithio'n galed er mwyn cyrraedd ein llawn botensial."
OLWYR
Mike Philips (Bayonne); Lloyd Williams (Gleision); Rhys Webb (Gweilch); Rhys Priestland (Scarlets); James Hook (Perpignan); Jamie Roberts (Gleision); Jonathan Davies (Scarlets); Scott Williams (Scarlets); Gavin Henson (Gleision); Ashley Beck (Gweilch); George North (Scarlets); Leigh Halfpenny (Gleision); Alex Cuthbert (Gleision); Harry Robinson (Gleision); Liam Williams (Scarlets); Lee Byrne (Clermont Auvergne)
BLAENWYR
Craig Mitchell (Caerlŷr); Adam Jones (Gweilch); Ryan Bevington (Gweilch); Gethin Jenkins (Gleision); Paul James (Gweilch); Rhys Gill (Saracens); Rhodri Jones (Scarlets); Matthew Rees (Scarlets); Huw Bennett (Gweilch ); Ken Owens (Scarlets); Bradley Davies (Gleision); Ian Evans (Gweilch); Lou Reed (Scarlets); Ryan Jones (Gweilch); Dan Lydiate (Dreigiau Gwent); Sam Warburton (Gleision); Justin Tipuric (Gweilch); Toby Faletau (Dreigiau Gwent); Andy Powell (Sale).