Mil yn llai yn ddi-waith yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Byd GwaithFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer o bobl oedd heb swydd rhwng mis Medi a Thachwedd wedi gostwng i 130,000

Roedd 1,000 yn llai o bobl yn ddi-waith yn ystod y tri mis diwetha' o'i gymharu â'r chwarter blaenorol, yn ôl y ffigurau diweddara'.

Roedd nifer o bobl oedd heb swydd rhwng mis Medi a Thachwedd wedi gostwng i 130,000 - sy'n cyfateb i 8.9% o'r gweithlu.

Ond mae'r ffigwr yn parhau'n uwch nag yr oedd o'r un cyfnod y llynedd.

Fis diwetha' roedd 77,300 o bobl yn hawlio lwfans ceisio gwaith, yn ôl ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae hynny 500 yn is na'r cyfnod blaenorol.

Trwy'r DU roedd nifer y di-waith wedi codi i 2.685 miliwn yn y tri mis hyd at fis Tachwedd.

Dywed y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol fod y raddfa diweithdra yn y DU wedi codi o 8.3% i 8.4% - y ganran ucha' ers mis Ionawr 1996.

Roedd nifer y bobl yn hawlio lwfans ceisio gwaith yn y DU ym mis Rhagfyr wedi codi o 1,200 i 1.6 miliwn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol