Mynd ag enillion troseddwyr cyffuriau

  • Cyhoeddwyd
LlysFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gang eu carcharu ym mis Mawrth 2011

Mae barnwr wedi gorchymyn y dylid mynd ag enillion dau aelod gang cyffuriau yn y gogledd.

Cafodd y gang naw aelod, yr oedd John Gizzi ei arwain, eu carcharu am gyfanswm o 66 o flynyddoedd ym mis Mawrth 2011.

Roedd Neil Sutemire, 38 oed o Lerpwl, wedi ei garcharu am bum mlynedd ac wyth mis am ddosbarthu cyffuriau.

Cafodd ei arestio yn Rhagfyr 2009 ac roedd £29,000 o arian parod yn ei gerbyd.

Ddydd Mercher oherwydd y Ddeddf Elw Troseddau roedd gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug oedd yn eistedd yng Nghaer.

Penderfynodd y Barnwr Dafydd Hughes ei fod wedi elwa £52,750 o'i fywyd troseddol.

Clywodd y llys fod £29,021 eisoes yn nwylo'r heddlu.

Prosesu

Roedd gorchymyn y dylid cadw'r Vauxhal Vectra oedd wedi ei ddefnyddio ar gyfer y troseddau.

Penderfynodd y llys fod ei gyd-ddifynnydd Michael Bennett wedi elwa £80,000 o'i droseddau.

Roedd Bennett, 33 o Benlan, Towyn, yn rhentu uned ddiwydiannol lle oedd y cyffuriau yn cael eu prosesu.

Yn wreiddiol, cafodd bedair blynedd a hanner o garchar.

Clywodd y llys i'r heddlu ddod o hyd i £2,452 o arian parod pan gafodd ei arestio.

Roedd yr heddlu wedi dod o hyd i gocên gwerth £162,000 mewn tacsi yn Queensferry, Sir y Fflint, yn Ebrill 2010.

Cafodd Gizzi, 30 oed o San Siôr ger Abergele, ei garcharu am 11 o flynyddoedd. .

Cafodd aelodau eraill y gang o Dywyn, Y Rhyl, Bae Cinmel a Lerpwl eu carcharu am gyfnodau rhwng pedair blynedd a hanner a naw mlynedd.