Scarlets yn gorffen â buddugoliaeth
- Cyhoeddwyd
Castres 13-16 Scarlets
Gyda'r gobeithion o aros yng Nghwpan Heineken eisoes wedi diflannu, fe enillodd tîm Nigel Davies yn Castres yn eu gêm olaf yn y gystadleuaeth y tymor hwn.
Bydd Davies, a Warren Gatland, yn fwy pryderus fod Rhys Priestland wedi gorfod gadael y maes gydag anaf fydd efallai yn ei gadw allan o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Roedd Priestland eisoes wedi sgorio cic gosb wrth i'r Scarlets fynd ar y blaen ar yr egwyl o 8-6. Gilbert yn sgorio'r unig gais.
Aeth yr ymwelwyr ymhellach ar y blaen pan ddaeth cais i Aaron Shingler yn yr ail hanner.
Ond yn ôl y daeth Castres gyda chais eu hunain a throsiad i'w gwneud hi'n gyfartal 13-13.
Gyda'r gêm yn dirwyn i ben fe ddaeth cyfle i Stephen Jones anelu at y pyst a doedd dim camgymeriad gan yr hen ben.
Y Scarlets yn fuddugol felly a Munster yn sgorio dros hanner cant yn Northampton