Carwyn: 'Angen ystyried cadw'r DU'
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi galw am sefydlu confensiwn cyfansoddiadol er mwyn ceisio cadw'r Deyrnas Unedig gyda'i gilydd.
Dywedodd Carwyn Jones ei fod yn bryderus bod dyfodol y DU yn ddibynnol ar ddatblygiadau yn Yr Alban, lle mae disgwyl i Llywodraeth yr SNP gyhoeddi mwy o fanylion am y bleidlais ar annibyniaeth.
Wrth siarad yn y gyntaf mewn cyfres o gynadleddau newyddion misol, dywedodd Mr Jones ei bod hi'n bryd mynd i'r afael â'r mater gan y rhai oedd am weld parhad y DU.
'Trafodaeth agored'
Wrth ddisgrifio sut y byddai confensiwn o'r fath yn gweithio dywedodd: "Nid mater syml o gael mwy neu lai o ddatganoli yw hyn - mae angen trafodaeth agored am sut y gall y DU ymateb mewn dull sy'n ateb anghenion bob rhan ohoni.
"Rwy'n agored i drafodaeth ynglŷn â ffurf unrhyw gonfensiwn.
"Ond y pwynt allweddol yw y dylai gynnwys amrywiaeth o bobl sy'n dylanwadu barn ac aelodau o'r cyhoedd er mwyn sicrhau y gall gwleidyddion ganolbwyntio ar faterion pwysig fel swyddi a thwf.
"Rydym wedi gweld llawer o drafodaeth dros yr wythnosau diwethaf am y cyfansoddiad.
"Rhaid i ni sicrhau bod mecanwaith lle y gallwn edrych ar hynny, ond ar yr un pryd rhaid peidio colli golwg ar y ffaith mai'r materion pwysig sy'n effeithio ar bobl ar y funud yw'r economi a swyddi."
Uchafswm?
Yn y gynhadledd, gofynnwyd i Mr Jones os oedd yn cefnogi polisi arweinydd Llafur, Ed Miliband, o gyflwyno uchafswm cyflog o 1% i weithwyr y sector cyhoeddus.
Atebodd drwy ddweud: "Nid wyf yn gweld rheswm i gael uchafswm.
"Rydym yn gwybod y byddai hynny'n arwain at drafferthion yng Nghymru, ac rwy'n credu bod rhaid ystyried y mater o dan yr amgylchiadau hynny.
"Credaf ei bod yn hanfodol bod pobl yn gweld fod y rhai sy'n cael eu talu mwyaf yn y gwasanaethau ariannol - y rhai y mae'r cyhoedd yn credu sy'n gyfrifol am y trafferthion ariannol presennol - yn talu eu siâr yn ogystal.
"Nid wyf yn credu bod hynny'n digwydd, ac o ganlyniad mae'n anodd iawn dweud wrth bobl sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus - sydd ddim yn gyfrifol am y trafferthion ariannol - yn gorfod ysgwyddo'r baich o doriadau cyflog pan nad yw hynny'n digwydd yn y sectorau mwyaf perthnasol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2012