Carwyn: 'Annibyniaeth ddim yn dda'
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud na ddylai pobl gymryd arnynt y byddai annibyniaeth i Gymru yn beth da.
Roedd Carwyn Jones yn siarad ar raglen Sunday Politics y BBC, a dywedodd pe bai'r Alban yn mynd yn annibynnol fe fyddai'r berthynas rhwng Cymru a'r gweddill y DU yn gorfod newid, ond doedd hynny ddim yn golygu annibyniaeth.
Dywedodd Mr Jones: "Gadewch i ni beidio meddwl y byddai annibyniaeth yn beth da i Gymru.
"Rydym yn gwybod na fyddai hynny'n dda yn ariannol. Rydym yn gwybod fod bod yn rhan o'r DU yn rhoi llais llawer cryfach i ni ar y llwyfan rhyngwladol, ac mae arian yn cael ei drosglwyddo o rannau cyfoethocach y DU i mewn i Gymru."
Ymyrryd
Ychwanegodd fod y polau piniwn yn awgrymu na fydd pobl yr Alban yn cefnogi annibyniaeth ar hyn o bryd, ond roedd ganddo rybudd hefyd i David Cameron beidio ymyrryd.
"Mae'r polau piniwn yn dangos os fyddai pleidlais ar annibyniaeth i'r Alban yn cael ei gynnal nawr, 'na' fyddai'n canlyniad.
"Ond yr hyn sy'n fy mhoeni yw bod rhaid i lywodraeth y DU fod yn ofalus dros ben i beidio rhoi'r argraff ei bod yn ceisio ymyrryd yn yr amseru a'r cwestiwn ar gyfer refferendwm yn yr Alban.
"Mater i bobl yr Alban yw hynny."
'Arwahanydd'
Gwrthododd Mr Jones feirniadaeth gan Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, sydd wedi ei gyhuddo o fabwysiadu agenda arwahanydd.
Wrth ymateb i hynny dywedodd Mr Jones: "Mae'n ymddangos mai'r farn yw os ydym yn gwneud unrhyw beth yn wahanol yma yng Nghymru, yna rydym ar y ffordd tuag at annibyniaeth.
"Mae honno'n ddadl beryglus iawn, oherwydd yr hyn mae'n ei ddweud yw na all datganoli weithio er bod pobl Cymru wedi pleidleisio o blaid datganoli ddwywaith.
"Fel rhywun gafodd ei ethol gan bobl Cymru, rwy'n credu fod gen i'r hawl i weithredu rhaglen lywodraethol mewn modd sydd ddim yn plesio'r ysgrifennydd gwladol, sydd heb gael ei hethol gan bobl Cymru.
"Rwyf am weithio gyda llywodraeth y DU pan fo hynny'n bosib, ond mae dweud 'fe gewch chi wneud be fynnoch chi yng Nghymru, ond os wnewch chi mae'n rhaid eich bod chi'r rhyw fath o arwahanydd' yn ddadl annoeth."
Ychwanegodd y Prif Weinidog os fyddai'r Alban yn cefnogi annibyniaeth, yna fe fyddai'n rhaid ystyried cynyddu'r nifer o Aelodau Seneddol o Gymru a Gogledd Iwerddon ynghyd â chynyddu'r gynrychiolaeth yn Nhŷ'r Arglwyddi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2011