Heddlu'n ymchwilio i lofruddiaeth menyw 67 oed yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn ymchwilio i lofruddiaeth menyw 67 oed yn Sir Gâr.
Cafodd Irene Lawless ei chanfod yn ei chartref brynhawn dydd Llun, lle'r oedd hi'n byw ar ei phen ei hun.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Pam Kelly ar ran Heddlu Dyfed Powys bod tri dyn wedi cael eu harestio, un dyn 26 oed ar amheuaeth o lofruddio.
Mae'r ddau arall, un yn 20 a'r llall yn 30 oed, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
Mae patholegydd y Swyddfa Gartref yn cynnal ymchwiliad ar hyn o bryd.
Ychwanegodd Ms Kelly bod rhaid canmol ymateb y bobl leol.
"Rydym yn parhau i apelio am wybodaeth am y farwolaeth," meddai.
Cafwyd hyd i gorff Ms Lawless mewn tŷ ar Stad Bryndulais yn Llanllwni ger Llanybydder.
'Amser pryderus'
Mae'r heddlu wedi cau'r ardal o amgylch y tŷ ac mae swyddogion fforensig wedi gosod pabell tu allan.
Cafodd swyddogion CID eu gweld yn mynd i'r tŷ ddydd Mawrth.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad Dinefwr a Dwyrain Caerfyrddin Jonathan Edwards a Rhodri Glyn Thomas, eu bod wedi eu tristáu o glywed am farwolaeth drasig un o'u hetholwyr.
"Rydym yn deall y bydd hyn yn amser pryderus i'r gymuned wrth iddyn nhw ddod i delerau â'r newyddion trasig.
"Mae'n meddyliau a'n gweddïau gyda'r teulu, ffrindiau a chymdogion ar amser anodd."
'Cymuned dawel'
Fe wnaeth y cynghorydd sir lleol, Linda Davies-Evans, ychwanegu bod y digwyddiad trasig yma wedi digwydd mewn "cymuned dawel lle mae pawb yn adnabod pawb".
"Mae'n amser anodd i deulu a ffrindiau'r fenyw a dwi'n cydymdeimlo'n ddwys â nhw.
"Roedd hi'n wraig hoffus ac annibynnol a fu'n byw ym Mryndulais am rai blynyddoedd.
"Mae'r newyddion yma yn sioc i ni gyd."