Yr heddlu yn parhau i ymchwilio i lofruddiaeth gwraig 67 oed
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed Powys yn parhau i holi tri dyn mewn cysylltiad â marwolaeth menyw 67 oed ym mhentref Llanllwni yng ngogledd Sir Gar.
Cafodd corff Irene Lawless ei ddarganfod yn ei chartref ar stad Bryndulais ddydd Llun.
Mae'r heddlu yn amau ei bod hi wedi cael ei llofruddio.
Dydd Mawrth cafodd tri dyn wedi cael eu harestio, un dyn 26 oed ar amheuaeth o lofruddio.
Mae'r ddau arall, un yn 20 a'r llall yn 30 oed, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
Menyw dawel
Roedd Ms Lawless yn byw ar ei phen ei hun ac wedi bod yn byw yno am tua 20 mlynedd.
Mae hi wedi cael ei disgrifio fel menyw dawel ac annibynnol.
Mae swyddogion o'r heddlu yn cynnig cymorth i aelodau ei theulu sy'n byw yn yr ardal.
Dydi'r cymhelliad pam y cafodd Ms Lawless ei llofruddio ddim yn glir.
Dydi'r heddlu ddim wedi rhyddhau manylion sut y cafodd ei lladd chwaith.
Bu swyddogion CID yn cynnal ymholiadau o ddrws i ddrys ddydd Mawrth yn casglu gwybodaeth a thystiolaeth o'r safle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2012