Airbus: Cytundeb newydd mawr
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni awyrennau Norwegian wedi arwyddo cytundeb dealltwriaeth gyda chwmni Airbus i brynu 100 o awyrennau A320.
Dyma'r cytundeb cyntaf rhwng y ddau gwmni ac mae cwmni Norwegian yn un o'r cwmnïau hedfan rhad mwyaf yn Ewrop.
Ddechrau mis Ionawr cyhoeddodd cwmni Airbus eu bod yn symud llawer o waith gwneud crwyn adenydd yr A320 o Frychdyn yn Sir y Fflint i Korea.
Ond fe fydd yr adenydd yn cael eu rhoi at ei gilydd yng ngogledd Cymru.
Mae cwmni Norwegian hefyd wedi arwyddo cytundeb i brynu 122 o awyrennau Boeing a'r cytundeb cyfan felly yw'r un mwyaf yn hanes hedfan yn Ewrop ac yn werth £13.8 biliwn.
Embaras
Ond fe ddaw'r cytundeb ar adeg lle mae Airbus yn wynebu embaras oherwydd awyren arall.
Mae archwiliadau diogelwch wedi dangos craciau yn adenydd nifer o awyrennau mawr yr A380
Roedd y cwmni wedi dweud bod yr awyrennau yn dal yn ddiogel ond fe orchmynnodd yr awdurdodau diogelwch brofion ar draean ohonyn nhwe.
Daeth i'r amlwg fod craciau o fathau gwahanol wedi eu canfod ar ran benodol o'r adain - braced siâp "L".
Dywed Airbus bod 2,000 o fracedi ymhob adain ac nad yw'n bygwth diogelwch yr awyren.
Cefnogaeth
Fe ddaeth i'r amlwg fod craciau wedi eu gweld mewn braced arall o'r adain yn 2010.
Digwyddodd hyn ddyddiau cyn i beiriant awyren A380 cwmni Qantas o Awstralia fethu ac ac nid oedd y craciau yn elfen gafodd fawr o sylw.
Daeth rhywfaint o gefnogaeth i safiad Airbus gan Asiantaeth Diogelwch Awyrennau Ewrop a ddywedodd bod llai o fan drafferthion yn dod i'r amlwg ar yr A380 nag mewn awyrennau gwahanol o oed tebyg.
Mynnodd Airbus bod eu proses o archwilio cyson a rhaglen waith cynnal a chadw yn golygu bod unrhyw drafferthion yn cael eu datrys cyn datblygu i fod yn broblemau mwy.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2011