Cyhuddo pedwar ar ôl ymosodiad honedig ar fachgen ysgol

Ysgol Uwchradd LlyswyryFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ysgol Uwchradd Llyswyry fod disgyblion oedd yn rhan o'r ymosodiad honedig wedi wynebu'r "gosb fwyaf difrifol sydd ar gael"

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn a thri bachgen wedi cael eu cyhuddo yn dilyn ymosodiad honedig ar fachgen ysgol yng Nghasnewydd yn gynharach eleni.

Cafodd fideo ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol ym mis Mai, oedd yn ymddangos fel petai grŵp o blant yn ymosod ar ddisgybl o Ysgol Uwchradd Llyswyry, tra'i fod yn cael ei ddal gan ddyn.

Cafodd tri o bobl eu harestio ar y pryd, ac fe gadarnhaodd Heddlu Gwent ddydd Gwener fod pedwar o bobl bellach wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â'r achos.

Mae'r pedwar - dyn 31 oed a thri bachgen, 12, 13 a 14 oed - wedi'u cyhuddo o ymosodiad cyffredin.

Maen nhw wedi cael eu rhyddhau ar fechniaeth amodol, ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos yn y llys fis nesaf.

"Rydyn ni'n deall bod diddordeb mawr iawn wedi bod yn yr ymchwiliad yma," meddai'r Dirprwy Brif Gwnstabl Vicki Townsend.

"Mae'n allweddol bod pobl yn ystyried sut y gallai eu hiaith - yn enwedig sylwadau ar-lein - gael effaith ar ein gallu i wneud unrhyw un sy'n cael eu canfod yn euog o drosedd i fod yn atebol am hynny."

Dywedodd pennaeth Ysgol Uwchradd Llyswyry fis Mai fod disgyblion oedd yn rhan o'r ymosodiad honedig wedi wynebu'r "gosb fwyaf difrifol sydd ar gael".

Pynciau cysylltiedig