Iaith: 'Modd dysgu gwersi'
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi dweud bod modd dysgu gwersi o Wlad y Basg o ran adfer a hyrwyddo iaith.
Dywedodd Meirion Prys Jones wrth BBC Cymru fod rhaid buddsoddi llawer mwy er mwyn sicrhau dyfodol llwyddiannus i'r Gymraeg.
Ar hyn o bryd mae'r Bwrdd yn gwario bron i £14 miliwn y flwyddyn ar y Gymraeg ond mae tua £60 miliwn yn cael ei wario ar y Fasgeg.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod wedi ymrwymo i hybu'r Gymraeg ac yn parhau i weithio'n galed i sicrhau tyfiant yr iaith.
Yn Sbaen mae nifer siaradwyr Basgeg yr un faint â'r rhai sy'n siarad Cymraeg.
Yn Sbaen a Ffrainc mae nifer siaradwyr wedi codi o 21% i 39% mewn 20 mlynedd, i gyfanswm o 700,000.
"Yn sicr, maen nhw wedi mynd ati yn y byd addysg yn fwy systematig na ni yng Nghymru, yn fwy rhagweithiol wrth ddarbwyllo rhieni am fanteision addysg drwy gyfrwng y Fasgeg," meddai Mr Jones.
'80%'
"Nawr mae 80% o blant hyd at saith oed yn derbyn eu haddysg naill ai yn gyfangwbl drwy'r Fasgeg neu dros hanner eu haddysg drwy'r Fasgeg.
"Maen nhw hefyd wedi gwario llawer mwy o arian ar yr iaith, yn enwedig ar ddysgu'r Fasgeg i oedolion - mae HABE yn sefydliad sylweddol sydd wedi profi llwyddiant mawr wrth ddysgu'r Fasgeg i oedolion."
Dywedodd fod 200 o diwtoriaid llawn-amser mewn mwy na 100 o ganolfannau sy'n arbenigo ar ddysgu iaith i oedolion a degau o filiynau o bunnau wedi eu buddsoddi yn y maes, gan gynyddu'r nifer o oedolion sy'n dysgu'r iaith yn aruthrol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd mentrau iaith yn derbyn yr un faint o arian oddi wrth y llywodraeth yn 2012-13 ag y cawson nhw oddi wrth Fwrdd yr Iaith eleni.
Dywedodd Mr Jones fod y Fasgeg yn cael ei chyfri'n iaith dipyn anoddach na'r Gymraeg i'w dysgu.
1500 awr
Roedd angen tua 600 awr o ddysgu cyn bod yn lled rugl yn y Gymraeg tra bod angen tua 1500 awr i fod yn lled rugl yn y Fasgeg.
Nid yw'r Fasgeg yn perthyn i deulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd fel y rhan fwyaf o ieithoedd eraill Ewrop ac nid oes perthynas hanesyddol rhyngddi hi ac unrhyw iaith arall.
Dywedodd Mr Jones fod deddfwriaeth i gryfhau sefyllfa'r iaith yn y sector preifat wedi bod yn effeithiol.
"Dywedwch fod cwmni fel easyjet eisiau glanio yn Bilbao, yna maen nhw'n cael eu gorfodi i ddarparu gwasanaeth yn y Fasgeg".
Ac mae'r awdurdodau wedi sicrhau bod y Fasgeg yn ffynnu ym myd technoleg, meddai.
"Maen nhw'n rhagweithiol iawn wrth sicrhau bod yr iaith yn cael ei defnyddio ym mhob technoleg newydd mor fuan â phosib.
"Maen nhw'n gweld eu hunain fel arloeswyr ac mae statws yr iaith yn hynod bwysig iddyn nhw."
Fe ddaw Bwrdd yr Iaith Gymraeg i ben ddiwedd mis Mawrth a'r cyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru.