Dylai elusen fod wedi bod yn 'risg uchel'

  • Cyhoeddwyd
Naz MalikFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Mae Naz Malik yn wynebu galwadau i adael ei swydd fel prif weithredwr Awema

Fe ddylai elusen sy'n wynebu honiadau o lygredd ariannol fod wedi'u graddio'n "risg uchel", yn ôl prif was sifil Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi atal grantiau gwerth mwy na £3m i Gymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru wedi adroddiad hynod feirniadol.

Clywodd Aelodau'r Cynulliad y byddai'r heddlu yn ymchwilio i weld a oedd angen erlyn unrhyw un.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Parhaol, y Fonesig Gillian Morgan, mae Llywodraeth Cymru yn "hynod bryderus".

Mae adroddiad gomisiynwyd gan ymddiriedolwyr yr elusen yn manylu ar honiadau yn erbyn y prif weithredwr Naz Malik, gan gynnwys honiad iddo gymeradwyo codiad cyflog personol heb awdurdod.

Dywedodd y Fonesig Gillian wrth Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad fod Llywodraeth Cymru yn trafod gyda'r heddlu a bod 'na gwestiynau i'r Comisiwn Elusennol i'w hystyried.

Wrth roi tystiolaeth am sut yr oedd y llywodraeth yn rheoli grantiau, dywedodd: "Os edrychwch chi ar y rhaglen grantiau mae'n amlwg weithiau nad ydyn ni wedi bod - ac mae hyn yn rhywbeth ar hyd yr amser - mor gadarn wrth sicrhau bod sefydliadau yn cwrdd â'r holl safonau y bydden ni'n eu disgwyl."

Roedd 'na archwiliadau blynyddol i geisio sicrhau bod yr elusen yn cofnodi eu cyfrifon yn gywir.

'Ateb cwestiynau'

Ychwanegodd: "Rydyn ni'n gwybod fod y prosesau dros y blynyddoedd diweddar wedi bod yn iawn, ond rwy'n credu bod angen mynd yn ôl llawer pellach na hynny i ateb cwestiynau a chael rhai atebion am ein rheolaeth tymor hir o sefydliadau ddylai, os ydych yn edrych ar yr hanes, fod wedi cael eu graddio fel sefydliadau risg uchel."

"Ar ddiwedd y dydd, os yw sefydliad 'dan ni wedi rhoi grant iddyn nhw yn penderfynu twyllo fel unrhyw sefydliad eraill, mae'n anodd iawn i unai'r rheoleiddiwr neu'r llywodraeth wybod am hynny."

Fe gyfeiriodd hi hefyd at achos Cymunedau'n Gyntaf Plas Madoc yn Wrecsam. Cafodd pennaeth y prosiect ei charcharu'r llynedd am ddwyn £51,000.

Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau eu bod yn gwneud pethau'n iawn pan fo sefydliad yn "risg uchel", meddai.

"Fydd hyn ddim yn atal y math yma o beth rhag digwydd ond fe fydd yn lleihau'r posibilrwydd."

Gall sefydliadau sy'n gweld effaith y penderfyniad i ddal cyllid yr elusen yn ôl, am eu bod nhw yn eu tro'n erbyn arian gan yr elusen, gysylltu â'r llywodraeth fydd yn ystyried pob achos yn unigol.

Mae'r elusen yn derbyn £8.4 miliwn o arian cyhoeddus, gan gynnwys grantiau Ewropeaidd a loteri.

Dywed neges ar wefan y sefydliad eu bod yn parhau i weithredu "drwy gydol ein trafferthion presennol".

Mae'r adroddiad mewnol am yr elusen yn argymell y dylai Mr Malik a'i ferch Tegwen - sydd hefyd yn gweithio i'r elusen - gael eu "hatal o'u gwaith yn syth, nes bod ymchwiliad a gwrandawiad disgyblu wedi cael eu cynnal".

Mae'r ddau yn parhau yn eu swyddi ac wedi derbyn rhybudd trwy lythyr ac ar lafar.

Tri adroddiad

Doedd cadeirydd Awema, Dr Rita Austin, ddim eisiau gwneud sylw, gan ddweud fod yr elusen yn disgwyl am gasgliadau archwiliad y llywodraeth.

Dywedodd cadeirydd pwyllgor y cynulliad, Darren Millar, fod 'na dri adroddiad am yr elusen mewn degawd.

Wrth siarad wedi'r cyfarfod ddydd Mawrth, dywedodd: "Ai dyma ddiwedd y daith i sefydliad sy'n amlwg yn colli hygrededd cyhoeddus? Rwy'n credu mai dyna yw'r achos."

Ychwanegodd: "Mae 'na ryw fath o batrwm yn dod i'r amlwg, sefyllfa Plas Madoc, y sefyllfa yma gyda'r elusen ... mae hanes yn ailadrodd ei hun mewn sawl ffordd.

"Mae 'na gwestiynau amlwg i Lywodraeth Cymru eu hateb ynglŷn â'r modd maen nhw'n rheoli cyllid cyhoeddus sy'n cael ei roi i gyrff eraill.

"Nid dim ond Llywodraeth Cymru sydd â chwestiynau i'w hateb ond y cyrff eraill sydd wedi ariannu'r sefydliad hwn."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol