Toriadau: 'Mwy o droseddu'

  • Cyhoeddwyd
HeddluFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aelodau Seneddol wedi dadlau y byddai torri cyllideb Heddlu'r Gogledd yn golygu mwy o droseddu

Mae Aelodau Seneddol wedi dadlau y byddai torri cyllideb Heddlu'r Gogledd yn golygu mwy o droseddu.

Yn Neuadd San Steffan yn Llundain dywedodd AS De Clwyd, Susan Elan Jones, fod toriadau o 20% yn "fyrbwyll".

Cefnogodd Albert Owen, Elfyn Llwyd, David Hanson, Mark Tami, Chris Ruane ac Ian Lucas ei dadleuon.

Ond dywedodd y Gweinidog Plismona, Nick Herbert, mai 10% nid 20% oedd yn gywir.

"Dyw bod yn unochrog ac yn bleidiol ddim yn helpu dadl ddifrifol," meddai.

Honnodd Ms Elan Jones fod y cynllun i sefydlu comisiynwyr heddlu yn "fethiant llwyr".

"Yn y bôn, mae bwriad y llywodraeth yn dileu'r grant heddlu gwledig ond bydd y cymunedau hynny ar eu colled.

'Anghenion'

"Mae ganddyn nhw anghenion penodol ac mae'r grant yn eu hadlewyrchu."

Dywedodd Elfyn Llwyd, AS Dwyfor Meirionnydd, fod cefn gwlad ar ei golled oherwydd creu "mannau canolog" fyddai'n anfon gwasanaethau ymateb yn gyflym.

"Mae'n ymddangos i mi mai rhywun mewn swyddfa gynigiodd hyn nid rhywun sy'n adnabod daearyddiaeth y gogledd, yn enwedig Dwyfor Meirionnydd."

O'r blaen dywedodd Ffederasiwn yr Heddlu fod "llai o blismona na'r disgwyl" yn rhai o ardaloedd y gogledd.

Mae nifer o swyddi uchelswyddogion wedi diflannu ac mae tair rhanbarth wedi eu cyfuno'n un oherwydd yr angen i arbed £15m o fewn llai na phedair blynedd.