Buddsoddiad: 'Angen i Gymru fod yn gystadleuol'
- Cyhoeddwyd
Mae angen i Gymru fod yn fwy cystadleuol wrth geisio denu buddsoddiad, yn ôl adroddiad Partneriaeth Fusnes Caerdydd.
Dywedodd yr adroddiad fod Cymru ar ei hôl hi o'i chymharu â bron pob rhan arall o'r Deyrnas Gyfunol wrth geisio denu cwmnïau o dramor.
Mae'r adroddiad, a gafodd ei baratoi gan Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd, wedi dweud bod angen i asiantaethau gydweithio.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn anelu at "werthu Cymru i'r byd" er mwyn rhoi hwb i'r economi.
Ymhlith argymhellion yr adroddiad mae :-
Datblygu 'brand' cryfach i Gymru;
Cylch gwaith cliriach i asiantaethau unigol;
Cysondeb polisi a gwella ymateb i ymholiadau.
'Hanfodol'
Dywedodd Cadeirydd Partneriaeth Fusnes Caerdydd, Adrian Clark: "Mae denu buddsoddiad i Gymru yn parhau i fod yn hanfodol ac fe ddylai gwerthu Cymru fod yn ymdrech ar y cyd.
"Caerdydd yw ffenest y siop, ond mae gan ddinasoedd eraill ran fawr i'w chwarae.
"Rhaid i ni gefnogi pawb, o'r llywodraeth i fusnes bach lleol sy'n cyflenwi cwmni mawr rhyngwladol.
"Mae gan Gymru y dalent i gystadlu ond rhaid i Gymru gymryd camau pellach i ddatblygu masnach a buddsoddiad er mwyn hybu ei hun yn rhyngwladol."
'Hyrwyddo'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod yr adroddiad yn cyfeirio at y llywodraeth flaenorol a'u bod eisoes wedi cydnabod nifer o bwyntiau'r adroddiad.
"Ers ei phenodiad fis Mai y llynedd mae'r Gweinidog Busnes Edwina Hart wedi bod yn gweithio gydag arweinwyr busnes i benderfynu sut orau i hyrwyddo Cymru yn y byd," meddai'r llefarydd.
"Rydym angen arddangos beth sydd ar gael.
"Dyna pam bod Carwyn Jones eisoes wedi arwain ymgyrch farchnata i Seland Newydd a China, a bod cynlluniau ar y gweill i ymweld ag Efrog Newydd ac India.
"Rydym yn sôn am sefydlu swyddfa Llywodraeth Cymru yng nghanol Llundain ac yn paratoi rhestr fanwl o ymgyrchoedd marchnata i hyrwyddo Cymru dramor."
Dywedodd Roy J Thomas o Bartneriaeth Fusnes Caerdydd eu bod wedi cynnal trafodaethau cynhyrchiol gyda'r Gweinidog Busnes.
"Rhaid i ni edrych ymlaen. Mae yna gonsensws fod rhaid i ni weithio gyda'n gilydd.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniadau ers yr etholiad ym mis Mai'r llynedd - sefydlu ardaloedd menter ar draws Cymru, canolbwyntio gwaith ar sectorau arbennig a'r cyhoeddiad am swyddfa yn Llundain.
"Mae Llundain yn ganolbwynt mawr a Manceinion a'r De-ddwyrain ar ein stepen drws, ond rhaid i Gymru edrych ymhellach i Ogledd America ac Asia.
"Nid rhywbeth i Gaerdydd yn unig yw mewnfuddsoddiad, mae'n fater o sut y mae Cymru'n cael ei gweld yn nhermau rhyngwladol.
"Nid cystadleuaeth yw hi rhwng busnesau cynhenid a mewnfuddsoddiad, preifat yn erbyn cyhoeddus, na de yn erbyn gogledd.
"Mae'n ddyletswydd ar bawb - nid dim ond Llywodraeth Cymru a'r cynghorau ond pob unigolyn sydd am weld Cymru'n ffynnu - i ganu clodydd Cymru i bawb sy'n gwrando."
Cafodd yr adroddiad ei baratoi rhwng Mai a Hydref 2011 gan Dr Andrew Crawley o Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2011