Elusen: Honiadau o fwlio

  • Cyhoeddwyd
Naz MalikFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Mae Naz Malik wedi gwrthod gwneud sylw tra bod yr ymchwiliad yn parhau

Mae rhaglen BBC Cymru Dragon's Eye'n datgelu honiadau o fwlio ac aflonyddu yn swyddfeydd Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru-Gyfan, Awema.

Yn y rhaglen nos Iau mae staff presennol a chyn-staff yn crybwyll cwynion yn erbyn dau o benaethiaid yr elusen, cwynion y maen nhw'n honni sydd heb eu hymchwilio'n drylwyr.

Y ddau yw Naz Malik, y prif weithredwr, a'i ferch, Tegwen Malik.

Dywedodd Naseibah Al-Jeffery: "Mae e (Naz Malik) yn fwli.

"Fe fydde fe'n ceisio'ch brawychu chi ... os oedd yn synhwyro bod hynny'n gweithio, fe fydde fe'n gwneud hyn dro ar ôl tro.

"Mae e'n mwynhau'r teimlad o bŵer dros bobol ... dyna weles i dros gyfnod o chwe mis."

Dywedodd aelod arall o'r staff: "Mae'n drist gweld hyn - hyd yn oed heddiw maen nhw'n parhau i frawychu a bwlio staff ... mae'n fwyfwy anodd i staff i barhau â'u gwaith.

"Mae'n cael effaith andwyol ar nifer o elusennau. Mae pobol yn edrych ar sefyllfa'r elusen ac yn casglu taw dyma'r ffordd y mae nifer o elusennau'n cael eu rhedeg."

Ymchwiliad annibynnol

Gofynnwyd i Paul Dunn, cyn bennaeth elusen lleiafrif ethnig yn Lloegr, gynnal ymchwiliad annibynnol ar ran ymddiriedolwyr yr elusen.

Ymhlith argymhellion Mr Dunn roedd atal Mr Malik o'i waith tra bod gwrandawiad ffurfiol i'r honiadau yn mynd yn ei flaen.

Datgelodd Dragon's Eye yr wythnos ddiwetha' fod miliynau o bunnoedd o daliadau i'r elusen wedi'u rhewi gan Lywodraeth Cymru.

Mae Mr Malik yn dal yn ei swydd ar ôl derbyn rhybudd ysgrifenedig.

Dywedodd na fyddai'n addas gwneud sylw tra bod Llywodraeth Cymru yn cynnal eu hymchwiliad.

Ond mae nifer o aelodau o staff, cyn-ymddiriedolwyr a Paul Dunn ei hun wedi dweud wrth Dragon's Eye nad oes neb o Lywodraeth Cymru wedi cysylltu â nhw.

"Dwi wedi fy syfrdanu," medd un cyn-ymddiriedolwyr. "Pe bai hyn wedi digwydd o fewn unrhyw sefydliad arall, fe fyddai pethau wedi symud yn gyflym ac fe fyddai popeth yn agored.

"Cyrff cyhoeddus yw'r rhain yn derbyn arian cyhoeddus a dylai popeth fod yn dryloyw.

Ymchwiliad llawn

"Pam nad yw unrhyw aelodau o'r bwrdd neu gyn-aelodau o fwrdd yr elusen wedi'u cyfweld?

"Ers i ni gyflwyno adroddiad i'r heddlu, Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Elusennau, does dim wedi digwydd. Does neb wedi bod mewn cysylltiad."

Mae'r Aelod Cynulliad Ceidwadol Darren Millar yn dweud wrth Dragon's Eye ei fod e wedi cysylltu â Heddlu'r De yn gofyn am ymchwiliad llawn.

Mynnodd nad oedd ganddo "hyder llawn bellach yn yr ymchwiliad presennol."

"O ganlyniad dwi'n gofyn yn ffurfiol i Heddlu'r De agor ymchwiliad ffurfiol i'r honiadau yma ar fyrder."

Fe fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r gwybodaeth ddiweddaraf ynglyn â'r ymchwiliad i aelodau'r cynulliad ddydd llun.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol