Shane: Gêm olaf yn erbyn Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd ymddangosiad olaf Shane Williams ar gae rygbi yn Stadiwm y Mileniwm ar Fehefin 2.
Yr hyn fydd yn rhyfedd yw mai yn erbyn Cymru y bydd yn chwarae.
Mae wedi cael gwahoddiad gan y Barbariaid i wynebu Lloegr, Iwerddon a Chymru yn yr haf.
Cyhoeddodd Shane ei ymddeoliad o rygbi rhyngwladol y llynedd, gan sgorio cais yn erbyn Awstralia yn ei gêm olaf i Gymru ym mis Rhagfyr.
Yn gynharach y mis hwn dywedodd y byddai'n ymddeol o rygbi'n llwyr ar ddiwedd y tymor presennol.
'Dim oedi'
Fe fydd yn ymuno â charfan y Barbariaid fydd yn chwarae yn erbyn Lloegr yn Twickenham ar Fai 27, Iwerddon yn Kingsholm ar Fai 29 a Chymru yng Nghaerdydd ar Fehefin 2.
Dywedodd Shane: "Roedd gorffen chwarae i Gymru ar ôl Cwpan y Byd yn teimlo fel y penderfyniad cywir ac ar ôl cael cyfle i fyfyrio mae'n teimlo'n iawn mai hwn fydd y tymor olaf hefyd.
"Rwy wedi chwarae i'r Barbariaid unwaith o'r blaen a phan ddaeth y gwahoddiad i chwarae yr haf hwn wnes i ddim oedi cyn derbyn.
"Mae'r Barbariaid yn sefydliad gwych sy'n crynhoi popeth sy'n dda am rygbi.
"Mae cael y cyfle i chwarae yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd yn gyfle anhygoel ..."
Bydd y chwaraewr 34 oed yn llysgennad gyda'r Gweilch.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2011