Shane Williams yn ennill ei gap olaf yn erbyn Awstralia

  • Cyhoeddwyd
Shane WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu Shane Williams ar daith gyda'r Llewod yn 2005 a 2009

Mae Warren Gatland wedi cadarnhau y bydd Shane Williams yn dechrau ei gêm olaf i Gymru yn erbyn Awstralia yng Nghaerdydd ar Ragfyr 3.

Mae'r asgellwr 34 oed wedi cadarnhau mai'r ornest yn Stadiwm y Mileniwm fydd ei ymddangosiad olaf i'r tîm rhyngwladol.

Ni fydd Gatland yn cyhoeddi ei garfan ar gyfer y gêm tan ddydd Sul, ond mae eisoes wedi dweud y bydd Williams yn dechrau'r gêm.

Dywedodd Gatland: "Mae Shane yn chwarae'n dda ar hyn o bryd, ac rydym am iddo ddechrau yn erbyn y Wallabies."

Mae Shane wedi sgorio 57 cais (sy'n record) mewn 86 ymddangosiad i Gymru ers ei gêm gyntaf fel eilydd yn erbyn Ffrainc yn 2000.

Roedd nifer yn tybio y byddai'n ymddeol yn dilyn Cwpan y Byd, ond fe benderfynnodd ymestyn ei yrfa er mwyn gorffen mewn steil yng Nghaerdydd.

'Gwas ffyddlon'

Ond dywed Gatland na fyddai'n ceisio perswadio Williams i barhau i'r dyfodol.

"Mae e wedi bod yn was ffyddlon iawn nid dim ond i gefnogwyr Cymru, ond i gefnogwyr y gêm drwy'r byd sy'n credu ei fod yn haeddu diweddglo gwych - fyddan nhw ddim yn siomedig," meddai.

"Mae Shane yn dal i chwarae'n dda iawn, ac fel hyfforddwr rydych chi yn dweud 'byth'.

"Ond petai hon yn gêm yn y Chwe Gwlad fe fyddwn yn dewis chwaraewyr yr ydym yn gwybod fydd yn dal i chwarae yn y Cwpan Byd nesa' ac ni fyddai Shane yn un o'r rheini."

Bydd Cymru'n ceisio dial ar Awstralia wedi'r golled o 21-18 yn y gêm medal efydd yng Nghwpan Y Byd y mis diwethaf.

Mae disgwyl i Gatland enwi carfan o 26 dros y penwythnos a fydd yn cynnwys pawb o garfan Cwpan y Byd sydd ar gael iddo.

Eisoes mae Perpignan wedi gwrthod rhyddhau James Hook i chwarae, ac fe allai Mike Phillips o glwb Bayonne hefyd fethu'r ornest.

Mae amheuaeth hefyd am argaeledd Lee Byrne o Clermotn Auvergne, yn ogystal ag Andy Powell, Dwayne Peel a Craig Mitchell sy'n chwarae i glybiau yn Lloegr.

Nid oes rhaid i glybiau o'r tu allan i Gymru ryddhau chwaraewyr ar gyfer gemau sydd ddim yn digwydd ar ddyddiadau swyddogol y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol.

Mae amheuaeth hefyd am ffitrwydd Leigh Halfpenny, Luke Charteris, Dan Lydiate a Justin Tipuric.