Bradley Davies yn wynebu panel disgyblu am dacl beryglus

  • Cyhoeddwyd
Bradley Davies yn derbyn cerdyn melyn yn y gêm yn erbyn Iwerddon yn Nulyn ddydd Sul Chwefror 5Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cerdyn melyn gafodd Bradley Davies yn ystod y gêm

Mae trefnwyr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi cadarnhau bod clo Cymru, Bradley Davies, wedi ei enwi wedi tacl beryglus yn y gêm yn erbyn Iwerddon yn Nulyn ddydd Sul.

Cafodd gerdyn melyn oherwydd y dacl waywffon ar eilydd Iwerddon, Donnacha Ryan.

Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi dweud y dylai fod wedi cael ei anfon o'r cae.

Fe fydd y chwaraewr 25 oed o flaen panel disgyblu ddydd Mercher yn Llundain.

Cymru enillodd y gêm o 23-21 gyda chic gosb Leigh Halfpenny yn y funud olaf.

"Dwi'n credu bod 'na fwriad (ar ran Bradley) wrth ail edrych ar y digwyddiad..." meddai Gatland.

"Fyddwn i ddim yn dadlau gyda'r penderfyniad 'se fe wedi cael cerdyn coch."

'Pwyllog'

Roedd gan y comisiynydd o'r Eidal, Achille Reali, tan 5pm ddydd Mawrth i enwi Davies.

Mae Gatland wedi dweud wrth Davies, gafodd gerdyn melyn yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad y llynedd yn erbyn Yr Alban, y dylai fod yn fwy disgybledig wrth chwarae rygbi rhyngwladol.

"Nid rygbi lleol yw hwn lle mae'n bosib na chewch chi mo'ch dal," meddai.

"Gyda'r dyfarnwyr gorau yn y byd rhaid bod yn bwyllog.

"Roedd y staff edrychodd ar y digwyddiad yn credu y dylai fod wedi cael cerdyn coch."

Yn rownd gynderfynol Cwpan Rygbi'r Byd yn Seland cafodd capten Cymru, Sam Warburton gerdyn coch wedi tacl debyg.

Cafodd ei wahardd am dair wythnos ac mae'n debyg y bydd Davies yn colli gêm gyntaf Cymru gartre yn y bencampwriaeth yn erbyn Yr Alban ddydd Sul.

Mae Gatland wedi dweud bod tacl Davies yn waeth nag un Warburton.

Bydd y Gwyddel Stephen Ferris hefyd yn mynd o flaen panel disgyblu ddydd Mercher am ei dacl ar glo Cymru, Ian Evans.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol