Ymgyrch Cymru yn dechrau gyda buddugoliaeth

  • Cyhoeddwyd
Jonathan Davies yn sgorio cais cyntaf CymruFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Jonathan Davies gais cyntaf Cymru

Iwerddon 21-23 Cymru

Mae cefnogwyr rygbi Cymru yn dathlu wedi gêm gyffrous yn erbyn Iwerddon yn Nulyn ddydd Sul.

Roedd gwŷr Warren Gatland ynn nerfus ar ddechrau'r gêm ac aeth Iwerddon ar y blaen wedi tair munud pan giciodd Jonathan Sexton gic gosb.

Ond tarodd Cymru yn ôl ac ar ôl pwyso ar y gwrthwynebwyr am sawl munud pasiodd Priestland y bêl i Jonathan Davies groesodd i sgorio cais cyntaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni cyn i Priestland fethu'r trosiad.

Roedd Cymru'n cadw'r meddiant yn dda ond methodd Priestland gyda chic gosb cyn i Sexton fethu gyda chic gosb i Iwerddon ychydig o funudau'n ddiweddarach.

Ad-drefnu

Cafodd Cymru ddigon o feddiant ond chafodd hyn ddim ei droi'n bwyntiau.

Dechreuodd Iwerddon reoli'r gêm yn ystod 10 munud ola'r hanner cyntaf a llwyddodd Tommy Bowe i dorri'r llinell amddiffynnol cyn pasio i Rory Best a groesodd y llinell.

Llwyddodd trosiad Sexton. Mantais o bum pwynt i'r Gwyddelod ar hanner amser.

Bu'n rhaid i Gymru ad-drefnu cyn dechrau'r ail hanner, Justin Tipuric yn lle'r capten, Sam Warburton oedd wedi'i anafu, a James Hook yn lle Alex Cuthbert.

Wedi dwy funud o'r ail hanner cafodd Cymru eu cosbi am drosedd a llwyddodd Sexton gyda'r gic gosb.

Erbyn hyn roedd hi'n amlwg bod Priestland yn cael gêm wael a methodd ei gic gosb ar ôl naw munud o'r ail hanner.

Gwaethygu

Funud yn ddiweddarach enillodd Cymru gic gosb arall a llwyddodd Leigh Halfpenny.

Ddwy funud yn ddiweddarach sgoriodd Cymru gais godidog, George North yn fylchu a phasio'r bêl i Jonathan Davies wibiodd dros y llinell.

Ciciodd Halfpenny y trosiad, gan roi Cymru ar y blaen, ond tarodd Iwerddon yn ôl ymhen munud gan fynd ar y blaen o 16-15 wedi awr o chwarae oherwydd cic gosb lwyddiannus Sexton.

Gwaethygodd y sefyllfa i Gymru wedi i Bradley Davies godi dyn mewn tacl wedi 65 munud.

Roedd blaenwr y Gleision yn lwcus, cafodd ei anfon i'r gell gosb oherwydd y dacl waywffon.

Lledu

Manteisiodd y tîm cartref ar gyfnod Bradley Davies yn y gell gosb wrth i asgellwr y Gweill, Tommy Bowe, sgorio cais, cyn i Sexton fethu gyda'r trosiad ar ôl 67 munud.

Gyda phum munud o'r ornest yn weddill, chwalodd George North amddiffyn Iwerddon unwaith eto, gan groesi'r llinell ar ôl i'r bêl gael ei lledu ar hyd yr olwyr.

Yna methodd Halfpenny gyda'r trosiad fyddai wedi sicrhau buddugoliaeth i Gymru.

Ond gyda dim ond 50 eiliad o'r gêm yn weddill, cafodd Ferris ei gosbi am dacl waywffon.

Ysgwyddodd Leigh Halfpenny y cyfrifoldeb. Ciciodd y gic gosb. Iwerddon 21 Cymru 23.

Bydd hyfforddwr y tîm, Warren Gatland, yn edrych ymlaen at y gêm nesaf yn erbyn yr Alban yng Nghaerdydd ddydd Sul nesaf.

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2012

CYMRU: Rhys Gill (Saracens), Huw Bennett (Gweilch), Adam Jones (Gweilch), Bradley Davies (Gleision), Ian Evans (Gweilch), Ryan Jones (Gweilch), Sam Warburton (capten, Gleision), Toby Faletau (Dreigiau), Mike Phillips (Bayonne), Rhys Priestland (Scarlets), George North (Scarlets), Jamie Roberts (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Alex Cuthbert (Gleision), Leigh Halfpenny (Gleision)

Eilyddion: Ken Owens (Scarlets), Paul James (Gweilch), Andy Powell (Sale Sharks), Justin Tipuric (Gweilch), Lloyd Williams (Gleision), James Hook (Perpignan), Scott Williams (Scarlets).

Iwerddon:C Healy, R Best, M Ross, D O'Callaghan, P O'Connell (C), S Ferris, S O'Brien, J Heaslip, C Murray, J Sexton, A Trimble, G D'Arcy, F McFadden, T Bowe, R Kearney.

Eilyddion: S Cronin, T Court, D Ryan, P O'Mahony, E Reddan, R O'Gara, D Kearney.

Dyfarnwr: Wayne Barnes (Lloegr)

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol