Elyrch yn ceisio cadw Rodgers
- Cyhoeddwyd
Bydd Brendan Rodgers yn cael ei dargedu gan rai o brif glybiau'r Uwchgynghrair, yn ôl cadeirydd Clwb Pêl-droed Abertawe, Huw Jenkins.
Ond mae Jenkins yn benderfynol o gadw'i afael ar Rodgers, ac yn y broses o drafod cytundeb tair blynedd newydd gydag e.
Dywedodd Jenkins: "Pan fydd y pedair neu bum swydd uchaf yn dod yn wag does dim amheuaeth y bydd Brendan yn cael ei gysylltu gyda nhw."
Wedi i Abertawe guro Arsenal o 3-2 yn Stadiwm Liberty yn ddiweddar, awgrymodd rhai y gallai Rodgers olynu Arsene Wenger fel rheolwr Arsenal, ac mae Rodgers eisoes wedi gwrthod cyfle i fod yn rheolwr ar Ogledd Iwerddon - gwlad ei febyd.
Dull chwarae
Roedd Jenkins yn ymfalchïo yn null chwarae Abertawe o dan reolaeth Rodgers, gan ychwanegu:
"Rydym wedi bod yn chwarae pêl-droed fel hyn ers tro bellach. Ydi, mae Brendan wedi ychwanegu rhywbeth ychwanegol i ni, ac wedi symud y clwb ymlaen yn y ffordd iawn.
"Nid gwrando ar beth y mae eraill yn ddweud amdanom ni yw hyn - rydym yn gwneud yr hyn yr ydym yn credu sy'n iawn.
"Os fedrwn ni brofi pobl yn anghywir a dechrau cymryd sylw ohonom ni, yna rhaid i ni fod yn hapus gyda hynny."
Er bod Rodgers a'r clwb wedi cytuno, does dim llofnod ar y cytundeb hyd yma, ond pwysleisiodd Jenkins fod hynny ar fin newid, a bod Rodgers wedi dweud ei bod yn anrhydedd cael y cyfle i arwain Abertawe am flynyddoedd i ddod.
Gwres a gorffwys
Mae Abertawe yn ddegfed yn nhabl yr Uwchgynghrair yn dilyn y fuddugoliaeth o 2-1 yn erbyn West Bromwich Albion ddydd Sadwrn, a bydd y chwaraewyr yn cael gwobr arall yn syth wedi'r gêm y Sadwrn nesaf.
Wedi ymweliad Norwich â Stadiwm Liberty, bydd carfan Abertawe yn hedfan am yr haul i wersyll ymarfer yn yr Ynysoedd Dedwydd.
Gan fod y penwythnos canlynol yn benwythnos Cwpan yr FA - cystadleuaeth y mae Abertawe eisoes allan ohoni - mae Rodgers wedi manteisio ar gynnig i gael ymarfer yng ngwres Tenerife.
Ychwanegodd Huw Jenkins: "Mae'r calendr ar gyfer Mawrth ac Ebrill yn anodd, a mater o geisio cael ychydig o orffwys i'r chwaraewyr yw hyn.
"Dyw'r tywydd yma ddim yn dda ar y funud, ac mae 90% o glybiau'r Uwchgynghrair yn gwneud y math yma o beth os oes cyfle."
Mae gan Abertawe bedair gêm ym mis Mawrth gan gynnwys ymweliad Manchester City â Stadiwm Liberty, ac yna chwe gêm ym mis Ebrill cyn gorffen y tymor gyda gemau yn erbyn Manchester United a Lerpwl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2012