Ffrwydriad: Heddlu'n holi dyn
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd y ffrwydrad yn ystod gwaith cynnal a chadw
Mae'r heddlu wedi holi swyddog cwmni olew wedi marwolaeth pedwar o bobl mewn ffrwydrad y llynedd.
Bu farw Julie Schmitz, Andrew Jenkins, Dennis Riley a Robert Broome o ardal Penfro ac Aberdaugleddau yn ffatri Chevron ym Mhenfro.
Cadarnhaodd yr heddlu fod dyn wedi cael ei holi "mewn cysylltiad â throseddau posib dynladdiad oherwydd esgeulustod dybryd".
Roedd Chevron wedi dweud bod y ffrwydrad wedi digwydd wrth i danc storio gael ei ddadgomisiynu ar gyfer gwaith cynnal a chadw.
Cafodd y burfa olew ei gwerthu yn ddiweddarach i gwmni Valero Energy o Texas am £477 miliwn.
'Esgeulustod'
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys: "Rydym wedi holi aelod gwrywaidd o staff Valero Energy mewn cysylltiad â'r ffrwydrad ar Fehefin 2, 2011, laddodd bedwar o weithwyr ac anafu un arall yn ddifrifol."
Ychwanegodd yr heddlu fod yr ymchwiliad, sy'n cael ei gynnal ar y cyd gyda'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch, yn gymhleth iawn.
Dywedodd llefarydd ar ran Valero: "Gan fod hyn yn ymwneud ag ymchwiliad presennol ni allwn wneud sylw pellach am y ffrwydrad ym mhurfa Penfro pan oedd yn eiddo i gwmni Chevron.
"Mae Valero a Chevron yn parhau i gydweithredu gyda'r heddlu a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch gyda'u hymchwiliad."
Mae cwest i farwolaeth y pedwar wedi ei agor a'i ohirio.