Yr ynysoedd yn peri 'anesmwythyd'
- Cyhoeddwyd
Mae'r dadlau cynyddol rhwng llywodraethau Prydain a'r Ariannin yn "destun anesmwythyd" ond nid yn bwnc llosg yn Y Wladfa, yn ôl brodor o'r Wladfa, Elvey MacDonald.
Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddwyd y bydd Yr Ariannin yn rhoi cwyn ffurfiol gerbron y Cenhedloedd Unedig am fod Prydain wedi penderfynu anfon llong ryfel i Ynysoedd Y Falkland.
Mae'r dadlau ynglŷn â phwy sy'n berchen ar yr ynysoedd yn poethi wrth i'r Tywysog William dreulio cyfnod yno fel peilot gyda gwasanaeth y Llu Awyr, a hynny 30 mlynedd ers y rhyfel.
Ganed Mr MacDonald yn Nhrelew a chafodd ei fagu yn Y Gaiman ac ers blynyddoedd mae o wedi ymgartrefu yn Llanrhystud, ger Aberystwyth.
"Does neb yn Y Wladfa yn rhagweld unrhyw beth tebyg i ryfel 1982," meddai.
'Annhegwch'
"Yn bendant does gan Yr Ariannin ddim yr adnoddau i ymladd rhyfel arall, ac mae Llywodraeth Prydain yn gwybod yn iawn nad yw'r Ariannin yn fygythiad milwrol.
"Mae 'na benboethiaid ymhlith poblogaeth y ddwy wlad.
"Er enghraifft, mae rhywrai wedi taflu paent ar ddrysau banc Prydeinig yn Buenos Aires yn ddiweddar.
"Ac mae'r teimlad o annhegwch yn parhau yn Y Wladfa a gweddill Yr Ariannin.
"Mae pob plentyn ysgol yn y wlad yn cael eu trwytho i wybod bod Yr Ariannin wedi etifeddu'r Malvinas oddi wrth Sbaen, a bod Prydain wedi eu cymryd trwy drais.
"Ond mae mwyafrif llethol y bobl yn Y Wladfa, a'r Ariannin, yn hollol bendant nad ydyn nhw am weld rhyfel arall.
"Dydyn nhw ddim yn gweld bai ar Gymru o gwbl. Maen nhw'n gwybod yn iawn nad oes unrhyw rym gan Gymru.
"Maen nhw'n gweld hyn yn broblem rhwng llywodraeth Yr Ariannin a llywodraeth Lloegr."
255 o filwyr Prydain
Cafodd 255 o filwyr Prydain eu lladd ar ôl wythnosau o frwydro ffyrnig yn Rhyfel Y Falkland, degau'n aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig.
Cafodd dros 600 o Archentwyr a thri o'r ynys eu lladd mewn 74 niwrnod.
Un o'r brwydrau mwyaf oedd ar Fai 2 1982 pan gafodd 368 o forwyr Yr Ariannin eu lladd wrth i long danfor Prydain suddo'r llong.
Yn ôl y llywodraeth, roedd y Belgrano yn "fygythiad i dasglu Prydain..."
Dywedodd llywodraeth Yr Ariannin fod y llong yn teithio i ffwrdd o'r ynysoedd.
Wrth edrych yn ôl ar y rhyfel, dywedodd Mr MacDonald: "Yr hyn yr oeddwn i yn ei glywed oedd bod pobl yn gwbl anfodlon a bod tristwch mawr.
"Dwi'n cofio bod colli'r rhyfel wedi golygu buddugoliaeth ar un ystyr, cael gwared ar ormeswr a chael democratiaeth."
Yn 2015 fe fydd dathliadau i nodi 150 mlynedd ers sefydlu'r Wladfa.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2011