Caniatâd i seiclwyr ddefnyddio promenâd
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr wedi penderfynu y dylai seiclwyr gael yr hawl i ddefnyddio promenâd Llandudno am gyfnod.
Bydd arbrawf yn cael ei gynnal am flwyddyn a phleidleisiodd cynghorwyr Sir Conwy o blaid y cynllun o 6-2.
Roedd yr aelodau wedi cael eu cynghori i ganiatâu'r seiclwyr i ddefnyddio'r promenâd.
Mae'r cynllun yn cynnwys gosod arwyddion rhybudd a chamerâu cylch cyfyng.
Peryglus
Yn ôl yr elusen Sustrans, sy'n hyrwyddo seiclo a cherdded, mae seiclwyr eisoes yn cael caniatâd i ddefnyddio 125 o rodfeydd eraill yn y Deyrnas Unedig.
Ond roedd gwrthwynebwyr i'r cynllun yn dweud bod y promenâd yn cael ei ddefnyddio gan bobl hŷn ac y byddai beiciau cyflym yn beryglus.
Dyw seiclwyr erioed wedi cael caniatâd swyddogol i ddefnyddio promenâd Llandudno ers iddo gael ei adeiladu yn 1876.
Mae'r awdurdod wedi ystyried y mater sawl gwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf ond roedd cynghorwyr wedi penderfynu peidio â chodi'r gwaharddiad bob tro.