Gostyngiad yn nifer y di-waith yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Yn wahanol i'r sefyllfa yng ngweddill Prydain roedd 'na ostyngiad o 3,000 yn nifer y di-waith yng Nghymru.
Yn ôl yr ystadegau diweddara gyhoeddwyd ddydd Mercher mae 134,000 o bobl Cymru yn ddi-waith.
Ym Mhrydain roedd cynnydd o 48,000 yn ddi-waith rhwng Hydref a Rhagfyr 2011 ac erbyn hyn, mae cyfanswm o 2.67 miliwn heb waith.
Yng Nghymru mae 'na gynnydd o 20,000 wedi bod o ran pobl mewn gwaith ac mae nifer y rhai anweithredol yn economaidd wedi gostwng 13,000.
Cododd nifer y rhai oedd yn gwneud cais am fudd-dal chwilio am waith ym mis Ionawr 1,300 i gyfanswm o 79,100.
Cydweithio
Croesawodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, y cyhoeddiad fod mwy'n gweithio a llai'n ddi-waith.
Dywedodd ei bod yn gobeithio y byddai Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru yn parhau i gyd-weithio er mwyn hybu swyddi a thwf yng Nghymru.
"Mae'r manylion diweddara'n newyddion calonogol ...," meddai.
"Er bod graddfa diweithdra yn dal yn annerbyniol o uchel, naw y cant mae 'na arwydd bod y sefyllfa'n gwella.
"Rhaid i ni gydnabod ei bod hi'n mynd i gymryd amser i ddelio â'r argyfwng economaidd gwaetha ers yr Ail Ryfel Byd."
Dywedodd ei bod wedi cyfarfod yn ddiweddar â Gweinidog Busnes Cymru, Ediwna Hart, a'i bod yn barod i gydweithio i sicrhau bod yr economi Gymreig yn ffynnu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2012