'Gemau geiriau o fudd i bobl â dementia'

  • Cyhoeddwyd
Llythrennau SgrablFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymchwil yn awgrymu y gall gemau sy'n defnyddio geiriau helpu'r cof

Bydd pobl â dementia a'u cynhalwyr yn cymryd rhan mewn prawf fydd yn asesu sut y gall gemau geiriau a chwisiau helpu'r cof.

Mae ymchwil Prifysgol Bangor yn awgrymu y gall gweithgareddau sy'n ysgogi'r meddwl arafu unrhyw ddirywiad.

Bydd y prawf yng ngogledd Cymru yn cael ei gynnal ar y cyd â Choleg Prifysgol Llundain.

Yn ôl adolygiad dan arweiniad yr Athro Bob Woods o Brifysgol Bangor, gall grwpiau trafod a gemau geiriau helpu cof pobl â chlefyd Alzheimer neu ddementia.

Dywedodd yr athro o Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru ym Mhrifysgol Bangor: "Mae'r adolygiad yn ymwneud â phobl sydd eisioes wedi datblygu dementia.

'Strategaeth'

"Ac mae'n awgrymu bod hon yn strategaeth ddefnyddiol i bobl â dementia nid yn unig ar gyfer gwella'r cof ond hefyd ar gyfer gwella ansawdd bywyd.

"Mae'r rhain yn weithgareddau syml iawn, yn cynnwys cerddoriaeth, dominos, gemau geiriau, cwisiau, hel atgofion - amrywiaeth eang."

Dywedodd fod aelodau staff mewn llawer o gatrefi gofal yn arfer y dulliau.

"Mae gennym ddiddordeb yn y posibilrwydd o ddysgu'r dulliau i aelodau teulu pobl â dementia.

"Byddwn yn dechrau treialu'r dull hwn ar raddfa fawr yn ystod y misoedd nesaf a byddwn yn gwahodd pobl â dementia a'u cynhalwyr."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol