Galw am fwy o wyddonwyr dementia

  • Cyhoeddwyd
Yr Athro Julie WilliamsFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Athro Julie Williams bod angen arian i ddenu arbenigwyr

Mae prif ymgynghorydd gwyddonol elusen Ymchwil Alzheimer's yn dweud bod angen mwy o arbenigwyr i weithio ar y dealltwriaeth o achosion y clefyd.

Mae'r Athro Julie Williams o Brifysgol Caerdydd yn cefnogi rhybudd y bydd gwybodaeth am ddementia yn y DU yn cael ei golli heb fwy o arian.

Dywedodd yr Athro Williams bod angen gwyddonwyr arbenigol i gwrdd â'r "her enfawr" y mae cymdeithas yn ei wynebu.

Bydd yr adroddiad - Trechu Dementia - yn cael ei gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin gan banel sy'n cynnwys yr awdur Syr Terry Pratchett a'r Athro Williams, sy'n un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r DU ar Alzheimer's.

Dywedodd bod angen gwneud mwy i ddenu arbenigwyr o feysydd eraill, gan ychwanegu mai diffyg arian oedd y broblem.

'Dim digon'

"Buddsoddi mewn gwyddonwyr o safon uchel yw'r unig ateb i dementia: mae ein hymennydd ni yn dibynnu ar eu hymennydd nhw," meddai.

"Mae'n glir o'r adroddiad yma nad oes gennym ddigon o wyddonwyr yn gweithio ym maes dementia i gwrdd â'r her enfawr sy'n wynebu cymdeithas.

"Rhaid i ni, nid yn unig gefnogi'r gwyddonwyr presennol gwych, ond hefyd annog mwy o bobl galluog i'r maes gydag arbenigaeth a syniadau newydd.

"Rhaid dymchwel rhwystrau biwrocrataidd i ymchwil fel y gallwn fabwysiadu'r amgylchedd iawn i wyddonwyr ffynnu."

Mae Ymchwil Alzheimer's yn amcangyfrif bod nifer y bobl sy'n byw gyda dementia yn y DU yn agos at filiwn, gan gostio mwy na £23 biliwn i'r economi.

'Argyfwng syn tyfu'

Er gwaethaf cynlluniau gan lywodraeth y DU, mae'r elusen yn dweud bod cyllid yn y maes "yn llawer llai nag ar gyfer ymchwil i ganser a chlefyd y galon, ac nid yw'r rhain yn gymaint o fygythiad i'n cymdeithas na'r economi.

"Am bob gwyddonydd dementia, mae mwy na chwech yn gweithio ym maes canser."

Mae adroddiad yr elusen yn gwneud 14 o argymhellion, gan gynnwys y dylai strategaeth ymchwil dementia cenedlaethol annog diogelu cyllideb ar gyfer ymchwil dementia.

Dywedodd prif weithredwr Ymchwil Alzheimer's: "Os na fedrwn gynyddu'r nifer o wyddonwyr sy'n gweithio ar ddementia, fe fyddwn ni'n methu yn ein dyletswydd i 820,000 o bobl sy'n byw gyda dementia heddiw, ac fe fyddwn heb y gallu i osgoi argyfwng sy'n tyfu."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol