Ailgylchu: 'Angen newidiadau sylweddol'
- Cyhoeddwyd
Mae diffyg cyd-weithio rhwng Llywodraeth Cymru a chynghorau yn golygu y bydd hi'n anodd cynyddu faint o wastraff sy'n cael ei ail-gylchu yn y dyfodol, medd Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Er bod cyfraddau ailgylchu yng Nghymru yn cynyddu, mae gwelliannau tymor hir yn "cael eu hatal gan rwystrau sylweddol" i gyflawni strategaeth wastraff Llywodraeth Cymru, yn ôl Huw Vaughan Thomas.
Mae gwendidau hefyd yn sut y mae perfformiad yn cael ei fesur, yn ôl yr adroddiad a gyhoeddir ddydd Iau.
Mae'r adroddiad yn cydnabod ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ailgylchu yn flaenoriaeth, gyda'i gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer cynaliadwyedd, ei thargedau ailgylchu manwl ar gyfer awdurdodau lleol a'r £360 miliwn mewn grantiau gwastraff a roddwyd i gynghorau er 2000.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydden nhw'n ystyried yr adroddiad ac yn ymateb maes o law.
43.6%
Gyda'r gyfradd ailgylchu gyffredinol yng Nghymru yn 43.6%, mae awdurdodau lleol wedi gwneud cynnydd cyson o ran cyflawni targedau gwastraff.
Fodd bynnag, mae nifer o rwystrau'n bod o ran cynyddu cyfranogiad y cyhoedd a'r gyfradd ailgylchu ymhellach, meddai Mr Thomas.
Er enghraifft, er bod awdurdodau lleol yn deall pwysigrwydd atal gwastraff, maen nhw'n "dal i fod â chwilen yn eu pen ynghylch cyflawni targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru".
Mae arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru wedi "drysu" rhai awdurdodau lleol a'u "hymddieithrio", medd yr archwilydd.
Mae awdurdodau lleol hefyd yn poeni nad yw cynlluniau cenedlaethol yn rhoi digon o ystyriaeth i amgylchiadau lleol, megis amrywiadau o ran y deunyddiau mewn gwastraff neu'r dulliau mwyaf addas o ailgylchu mewn ardaloedd â daearyddiaeth wahanol neu wahanol fathau o dai.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr anawsterau a achosir yn sgîl safbwyntiau croes Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ynghylch y ffordd orau o ddarparu gwasanaethau ailgylchu i'r cyhoedd.
Cyson
Mae Llywodraeth Cymru o'r farn mai ailgylchu a didoli wrth ymyl y ffordd yw'r ffordd fwyaf cyson o gynhyrchu deunydd gwastraff o safon.
Nid yw'n hoffi'r system o 'gymysgu' gwastraff sych - megis poteli, caniau a chard.
Fodd bynnag, mae rhai awdurdodau lleol a chontractwyr yn y sector preifat yn anghytuno â'r honiad hwn, gan ddweud y gall cyfleusterau adfer modern ddidoli'n fecanyddol wastraff a gymysgwyd i ansawdd digonol ac am gost debyg.
Dywedant ei bod yn broses llawer haws i'r cyhoedd gan nad oes angen iddo ddidoli deunyddiau ac y byddai'n cynyddu lefelau cyfranogiad y cyhoedd ymhellach.
Mae'r adroddiad hwn yn rhybuddio, os bydd yr anghytuno ynghylch dulliau casglu gwastraff ailgylchadwy yn parhau, fod risg y bydd yn llesteirio cynnydd pellach o ran cyflawni amcanion ailgylchu ac yn lleihau'r momentwm o ran cyfranogiad y cyhoedd.
Mae'r wybodaeth a gesglir ar hyn o bryd am gyfranogiad y cyhoedd mewn ailgylchu yn wendid hefyd.
Er bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn mesur cyfranogiad, nid yw'r broses yn ddigon manwl yn aml ac mae'n digwydd yn rhy anfynych.
'Newidiadau sylweddol'
Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas: "Mae'n amlwg bod y cyhoedd yn ymwneud yn fwy ag ailgylchu gwastraff a dylai Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol gael eu canmol am eu hymdrechion i annog hyn dros y chwe blynedd diwethaf.
"Fodd bynnag, caiff y momentwm ei golli oni wneir newidiadau sylweddol mewn rhai ardaloedd.
"Mae angen i ni weld canllawiau gwell gan Lywodraeth Cymru. Dylai awdurdodau lleol fynd ati i gasglu data mewn ffordd graffach.
"Ac, yn bwysicach oll, rhaid i gynghorau a'r llywodraeth gydweithio er mwyn dod i gytundeb ar y ffyrdd gorau o gasglu gwastraff."